The Case: hyfforddiant am effeithiau ymchwil ac arloesi
17 Chwefror 2023
Prifysgol Caerdydd yw'r drydedd brifysgol yn Ewrop i gymryd rhan yn The Case, rhaglen hyfforddi sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Clywon ni ragor amdano trwy siarad â Sophie Bruford, Rheolwr Effeithiau IAA ESRC, a drefnodd yr hyfforddiant...
Ynglŷn â’r hyfforddiant
Mae'n gwrs meithrin gallu er effeithiau ac arloesedd trwy ymchwil y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae’n ymwneud â dysgu trwy ddefnyddio: byddwch chi’n dysgu yn syth trwy drin a thrafod achos go iawn yn eich prifysgol chi.
Y rhaglen hyfforddi ym Mhrifysgol Caerdydd
Cymerodd rhai o academyddion Prifysgol Caerdydd ran yn y rhaglen dros dridiau ym mis Rhagfyr 2022 a mis Ionawr 2023. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol a dau brosiect masnacheiddio addawol. Dyma’r academyddion gymerodd ran: Y Dr Andrea Collins, y Dr Nicole Koenig-Lewis, y Dr Daniel Finnegan a’r Dr Esther Wright. Cydweithion nhw â rhai o staff masnacheiddio ac effeithiau ymchwil yn rhan o’r rhaglen.
Fe roes y gweithdai wybodaeth hanfodol am ddulliau trosglwyddo ac effeithiau i gyflymu cynnydd prosiectau gan arwain at achos cadarn ac iddo gyfeiriad eglur ar hyd llwybr masnachol. Archwiliodd y timau fasnacheiddio trwy strwythurau sefydliadau er elw a dielw, a dewisodd y ddau dîm ffordd ddielw.
Yn ystod y rhaglen, roedd cyfleoedd i ddefnyddio damcaniaethau a dulliau mentergarwch megis mapio budd-ddalwyr, dadansoddi bylchau, dilysu marchnadoedd, cynnig gwerthoedd, hel cwsmeriaid a llunio dadl. Bydd y Tîm dros Fasnacheiddio ac Effeithiau Ymchwil yn rhoi cymorth i’r timau drwy’r amser i’w helpu ar hyd eu llwybrau.
Achosion wedi’u hastudio yn ystod yr hyfforddiant:
Pecyn cymorth effeithiau digwyddiadau
Y Dr Andrea Collins (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio), y Dr Nicole Koenig-Lewis a’r Athro Max Munday (Ysgol Busnes Caerdydd)
Nod y prosiect hwn yw helpu i asesu’n well garbon sydd wedi’i greu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol pan ddaw ymwelwyr i achlysuron cenedlaethol a rhyngwladol mawr megis chwaraeon, gwyliau a chynadleddau academaidd o bwys. Bydd pecyn cymorth yn cynnig atebion, astudiaethau achos a dulliau mesur i helpu i newid ymddygiad ymwelwyr yn barhaol gan arwain at lai o effeithiau amgylcheddol yn sgîl achlysuron mawr yn y pen draw.
Ar y cyd ag adrannau gwladol a threfnwyr achlysuron, mae bwriad i lunio strategaethau arbed gwastraff ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth i hysbysu trefnwyr achlysuron cenedlaethol a rhyngwladol ynghylch sut y gallan nhw fod yn fwy cynaladwy. Mae’r prosiect yn dilyn llwyddiant nifer o brosiectau cynhyrchu effeithiau o dan adain tîm yr ymchwil ar y cyd â threfnwyr amryw achlysuron adnabyddus.
Consol treftadaeth
Y Dr Daniel Finnegan (Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg) a’r Dr Esther Wright (Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd).
Nod y prosiect yw helpu i leddfu anawsterau mudiadau treftadaeth ddiwylliannol, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol ynghylch cynnig cynnwys rhyngweithiol a chynaladwy trwy amryw gyfryngau yn ôl anghenion darparwyr a chwsmeriaid ym maes treftadaeth ddiwylliannol. Trwy sefydlu trefn lle mae budd gan drigolion yn eu treftadaeth leol a defnyddio gêmau fideo i lunio cynnwys ar y cyd â’r trigolion, yn hytrach na’i lunio drostyn nhw, mae modd eu galluogi i gydio yn eu treftadaeth nhw yn ogystal â chynnig cyfle inni ymgysylltu â nhw.
Trwy weithdai gyda phartneriaid, gall y garfan fireinio’r syniad craidd gan lunio consol a fydd yn unigryw i gyd-destun pob treftadaeth ddiwylliannol a chyfleu darlun cynhwysfawr ac amryfal o dreftadaeth leol. Mae modd cadw’r gêmau sydd wedi’u llunio ar blatfform cwmwl fel y byddan nhw ar gael o hirbell trwy ddyfeisiau personol neu mewn mannau penodol trwy gonsol treftadaeth.
Adborth cyfranogwyr
Meddai’r Dr Andrea Collins: "Mae’r hyfforddiant wedi bod yn amhrisiadwy. Bu rhaid inni lenwi cerdyn effeithiau ymchwil ym mhob cam gan beri inni ystyried ein cynlluniau cyfredol yn fanylach yn ogystal â gweld bod angen cysylltu â budd-ddalwyr ehangach a nodi effeithiau y tu hwnt i ofynion Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Mae'r hyfforddiant wedi’n galluogi i wireddu posibiliadau lawer ein gwaith ym maes achlysuron mawr. Bellach, mae gennyn ni strategaeth i fwrw ymlaen â’n hymchwil effeithiol gyda chymorth y Tîm dros Fasnacheiddio ac Effeithiau Ymchwil.”
Meddai’r Dr Nicole Koenig-Lewis: “Fe roes yr hyfforddiant gyfle i feddwl yn ehangach am effeithiau ein gwahanol brosiectau gyda threfnwyr achlysuron mawr. Roedd cyfle i lunio syniadau ar y cyd â’r Tîm dros Fasnacheiddio ac Effeithiau Ymchwil yn ystod y gweithdai yn ddefnyddiol iawn. Aeth yr hyfforddiant rhagddo o dan adain hwyluswyr ardderchog a enynnodd ein brwdfrydedd gan ein helpu i lunio delfryd ymarferol ar gyfer cryfhau ein heffeithiau.”
Rheolwr IAA ESRC, Sophie Bruford, drefnodd yr hyfforddiant a Chyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol oedd y prif noddwr.
Cysylltwch â’r Tîm dros Fasnacheiddio Ymchwil i drafod ffyrdd amgen o gryfhau effeithiau trwy fasnacheiddio: technologytransfer@cardiff.ac.uk