Prifysgol Caerdydd yn penodi Pennaeth Masnacheiddio newydd
14 Chwefror 2023

Mae Prifysgol Caerdydd wedi penodi Pennaeth Masnacheiddio ac Effaith Ymchwil newydd. Bydd yn gyfrifol am droi ymchwil academaidd yn fusnesau ac yn entrepreneuriaeth.
Mae Paul Devlin, a fu gynt yn Bennaeth Masnacheiddio ym Mhrifysgol Heriot-Watt, yn dod â pheth wmbreth o brofiad sy'n rhychwantu rolau technegol a masnachol arloesol, boed ymchwilio ym maes meddalwedd dal patentau, creu cwmni deillio yn ogystal â rheoli rhaglenni Ymchwil a Datblygu a buddsoddi ynddynt.
Yn ogystal â helpu busnesau twf uchel newydd i fasnacheiddio technoleg sy’n gweddnewid byd busnes, sefydlodd Paul swyddfa Mercia yn yr Alban, sef un o’r cronfeydd buddsoddi mwyaf gweithgar o blith prifysgolion y DU a bu’n bennaeth entrepreneuriaeth myfyrwyr ym Mhrifysgol Caeredin pan oedd yn Rheolwr Creu Cwmnïau.
Dyma’r hyn a ddywedodd Paul: “Rwy wrth fy modd yn ymuno â thîm masnacheiddio ac effaith Prifysgol Caerdydd. Mae gan y Brifysgol hanes rhagorol o droi ymchwil academaidd yn gwmnïau deillio a busnesau newydd, creu a datblygu partneriaethau diwydiant, yn ogystal â chefnogi myfyrwyr i droi syniadau creadigol yn gyfleoedd busnes.
“Rwy'n edrych ymlaen at gryn nifer o heriau yn y swydd hon, yn enwedig ym maes datblygu effaith yr ymchwil a’r masnacheiddio sy’n digwydd yn sgîl Sefydliadau Arloesi newydd y Brifysgol, a thrwy feithrin partneriaethau cyffrous newydd yng nghyfleusterau hybu'r Brifysgol. Mae Arloesedd Caerdydd, yn adeilad newydd sbarc|spark, a'r Medicentre yn lleoedd delfrydol ar gyfer ein cwmnïau deillio yn ogystal â chwmnïau uwch-dechnoleg allanol sy'n gweld y manteision yn sgîl gweithio ochr yn ochr â'n hymchwilwyr o'r radd flaenaf.”
“Bydda i hefyd yn gweithio'n agos gyda Phartneriaeth SETSquared i ddatblygu ein perthynas sydd wedi bod ar waith ers blwyddyn. Y cwmni hybu busnes hwn, sydd hefyd yn bartneriaeth fentro, yw’r gorau yn y byd. Mae’n rhan o chwe phrifysgol ymchwil-ddwys, sef Bryste, Caerdydd, Caerfaddon, Caerwysg, Southampton a Surrey - ac mae'n ymroddedig i fynd â byd ymchwil i'r farchnad.”
Prifysgol uchelgeisiol ac arloesol yw Prifysgol Caerdydd. Mae ganddi weledigaeth feiddgar a strategol sy’n seiliedig ar addysgu ac ymchwil ragorol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Ein delfryd yw bod ymhlith prifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd o ran ymchwil ragorol, addysg o’r radd flaenaf, creadigrwydd a chwilfrydedd gan gyflawni ein cyfrifoldebau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, y DU a’r byd. Drwy wireddu ein gweledigaeth, byddwn ni’n gwella ein statws o fod yn un o’r 100 o brifysgolion gorau’r byd ac un o’r 20 o brifysgolion gorau’r DU.
Dyma a ddywedodd Dr Dave Bembo, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Paul i Gaerdydd. Mae hanes Paul o lwyddo ym maes masnacheiddio ymchwil a throsglwyddo technoleg, ynghyd â'i allu diamheuol i gydweithio ag uwch-arweinwyr byd prifysgol, ymchwilwyr a sefydliadau allanol, yn rhoi'r hwb sydd ei angen arnon ni i ehangu ein gweithgareddau entrepreneuraidd ac arloesi’n effeithiol.”
Arloesedd Caerdydd yw’r cartref yn y ddinas ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd. Mae’n cynnig ystod o wasanaethau a lleoedd dros bedwar llawr, gan gynnwys swyddfeydd a lleoedd i gydweithio y gellir eu gosod, lleoedd cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol, cyfleusterau cynadledda o'r radd flaenaf, labordy gwlyb a lleoedd arddangos/cyflwyno ar y cyd gan gynnwys lle cynadledda a chaffi ar y safle.
I gael rhagor o wybodaeth am gynnal busnes gyda Phrifysgol Caerdydd, cysylltwch â devlinp1@caerdydd.ac.uk