Bwrsariaeth Gareth Pierce
8 Chwefror 2023
Mae myfyriwr mathemateg o Brifysgol Caerdydd yn un o dri sydd wedi derbyn cynllun bwrsariaeth cyntaf Gareth Pierce.
Bydd Alys Ffion Chisholm o Lanberis yn derbyn £3,000 er cof am Gareth Pierce, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chyn Brif Weithredwr CBAC, a fu farw’n sydyn ym mis Gorffennaf 2021.
Dywedodd Alys: “Mae’n anrhydedd derbyn y bwrsariaeth newydd hon yn enw Gareth Pierce, ffigwr pwysig ym myd addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg a CBAC am y cyllid a fydd o gymorth mawr ac yn hwyluso fy amser yn y brifysgol dros y blynyddoedd nesaf.”
Mae Alys wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg erioed ond, oherwydd ei bod yn dod o aelwyd Saesneg ei hiaith, byddai fel arfer yn cyflawni gwaith yn ddwyieithog - rhywbeth yr oedd yn hoff iawn o’r cyfle i barhau fel rhan o’i gradd mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ychwanegodd Alys, sydd ym mlwyddyn gyntaf ei gradd: “I rywun sy’n ystyried astudio rhan o’u gradd yn y Gymraeg, byddwn i’n dweud ewch amdani. Mae'n agor llawer mwy o gyfleoedd i chi yn y brifysgol heb gau dim!"
Lansiwyd cynllun bwrsariaeth Gareth Pierce yn gynharach eleni gan CBAC ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac fe’i cynigir i dri myfyriwr israddedig sy’n astudio o leiaf traean o’u gradd Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyfarnwyd y fwrsariaeth hefyd i Lowri Haf Davies a Taylor-James Daughton o Brifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg: “Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch y tri myfyriwr ar ennill bwrsariaeth Gareth Pierce. Bu Gareth yn ffigwr dylanwadol ym myd addysg yng Nghymru a gwnaeth gyfraniad allweddol at y Coleg, yn benodol wrth sicrhau cyllideb addas i ymestyn gwaith y Coleg i feysydd addysg bellach a phrentisiaethau.
“Mae’n fraint ar ran y Coleg i gefnogi’r bwrsari er cof amdano ac rydym yn ddiolchgar iawn i deulu Gareth a hefyd i CBAC am eu cefnogaeth. Dymunwn bob llwyddiant i Alys, Lowri a Taylor-James yn y dyfodol. ”
Ychwanegodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Ar ran CBAC hoffwn longyfarch Alys, Lowri a Taylor-James sydd wedi derbyn bwrsariaeth Gareth Pierce am y tro cyntaf. Roedd Gareth yn ffigwr arwyddocaol o fewn y byd addysg Gymraeg, ac mae’r bwrsari hwn yn dyst i’w angerdd am fathemateg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Dymunwn y gorau i’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau, a gobeithio y bydd y bwrsariaeth yn eu galluogi i ffynnu yn eu cyrsiau priodol.”
Am fwy o wybodaeth am fwrsariaeth Gareth Pierce, ewch i wefan y Coleg Cymraeg.
Darganfod mwy am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.