Dathlu sêr technoleg benywaidd y dyfodol yng Nghymru
9 Chwefror 2023
Mae pedair merch ysgol o Gasnewydd wedi’u coroni’n bencampwyr seiberddiogelwch ar ôl hawlio buddugoliaeth yn rownd derfynol Cymru mewn gornest i ddatgelu mwy o dalentau seibr benywaidd y DU.
Daeth y tîm o Ysgol Uwchradd RC St Joseph i’r brig yn rownd derfynol ranbarthol Cymru yng nghystadleuaeth CyberFirst Girls 2023 a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd.
Derbyniodd Chloe, Sophie, Annis, a Maelie liniaduron newydd sbon i gydnabod eu llwyddiant a byddan nhw’n mynd i ddiwrnod dathlu a chinio wobrwyo fawreddog a gynhelir gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn Llundain yn ddiweddarach eleni.
“Mae’r merched wrth eu bodd ac rydyn ni mor falch ohonyn nhw,” meddai Carys Thomas, athrawes gyfrifiadureg yn St Joseph’s sy’n dweud eu bod wedi gweld nifer y merched sy’n cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth hon yn dyblu yn y blynyddoedd diwethaf, gyda merched bellach yn cynrychioli traean o bob dosbarth TGAU cyfrifiadureg yn yr ysgol.
“Mae’r pwnc hwn nid yn unig yn cyflwyno sgiliau cyfrifiadurol hanfodol ar gyfer eu dyfodol, ond mae hefyd yn meithrin hyder, cynhwysiant a gwaith tîm ar draws y cwricwlwm.
“Bydd y fuddugoliaeth hon, rwy’n gwybod, yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o gyfranogwyr y flwyddyn nesaf.”
Cystadleuaeth CyberFirst Girls yw prif gystadleuaeth seiberddiogelwch yr NCSC ar gyfer ysgolion. Mae’n agored yn flynyddol i ferched ym Mlwyddyn 8 yng Nghymru a Lloegr, S2 yn yr Alban, a Blwyddyn 9 yng Ngogledd Iwerddon.
Ei nod yw ysbrydoli merched i ddilyn gyrfaoedd ym maes seiberddiogelwch, sef sector lle nid yw menywod ond yn cynrychioli 22% o weithlu'r DU.
Yn ystod digwyddiad Cymru a gynhaliwyd yn Abacws, cartref newydd gwerth £39 miliwn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, bu 11 tîm yn mynd i'r afael â heriau sy'n ymwneud â phynciau gan amrywio o rwydweithio, deallusrwydd artiffisial, cryptograffeg a rhesymeg.
Dywedodd Dr Yulia Cherdantseva, Cyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd: “Pleser o’r mwyaf oedd cynnal rownd derfynol rhanbarth Cymru o gystadleuaeth CyberFirst Girls eleni a gweld drosof fy hun yr holl dalent benywaidd ifanc ym maes seibr sydd gennym yn y rhanbarth.
“Hoffwn i longyfarch cystadleuwyr y rownd derfynol a phawb a gymerodd ran yn ystod y gystadleuaeth. Dylen nhw fod yn falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.”
Cenhadaeth Caerdydd i gael mwy o fenywod a merched i mewn i seiber
Ym mis Hydref 2022, cydnabu’r NCSC Brifysgol Caerdydd yn Ganolfan Rhagoriaeth Academaidd ym maes Addysg Seiberddiogelwch.
Yn un o 10 prifysgol yn y DU i dderbyn y wobr aur, mae’n cydnabod gwaith y Brifysgol yn darparu rhaglenni gradd seiberddiogelwch o ansawdd uchel, codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am seiberddiogelwch a darparu sgiliau pwysig i bobl ifanc trwy fentrau gan gynnwys Technocamps, TeenTech, UnlockCyber ac, ers 2018, Digwyddiadau CyberFirst mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Ychwanegodd Dr Cherdantseva, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Seiberddiogelwch yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd:

“Mae’n rhywbeth rydyn ni’n angerddol yn ei gylch yma ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n rhan o’n rhaglenni allgymorth gydag ysgolion a’r gymuned leol.”
Cymerodd mwy na 8,700 o ddisgyblion ran yng nghystadleuaeth CyberFirst Girls a ddaeth i ben yn y 13 rownd derfynol ranbarthol a gynhaliwyd ar yr un pryd ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seiber NCSC: “Llongyfarchiadau i’r holl dimau a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni – ac yn arbennig i’r rhai a ddaeth i’r brig yn eu rowndiau terfynol.
“Mae Cystadleuaeth Merched CyberFirst 2023 wedi bod yn llwyddiant mawr, a hoffwn dalu teyrnged i’r athrawon sydd wedi ysbrydoli a chefnogi eu disgyblion drwy’r amser a hefyd diolch i bartneriaid diwydiannol am eu cefnogaeth i wneud hyn i gyd yn bosibl.
“Mae’n galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn ymgysylltu â seiberddiogelwch, a gobeithio y bydd llawer ohonoch yn dilyn gyrfa o fewn y diwydiant ac yn amddiffyn y DU rhag bygythiadau ar-lein yn y dyfodol.”