Encil Ysgrifennu Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
7 Chwefror 2023
Treuliodd ymchwilydd CUREMeDE, Sophie Bartlett, wythnos yn ddiweddar gyda chydweithwyr ymchwil eraill yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn Neuadd Gregynog ar encil ysgrifennu. Arweiniwyd yr encil gan athrawon SOCSI gyda phrofiad helaeth o gyhoeddi ac fel golygyddion cyfnodolion academaidd.
Roedd yr encil ysgrifennu yn gyfle gwych i gamu'n ôl o amgylchedd ymchwil cyflym gwaith maes, ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac ebyst o ddydd i ddydd, a threulio wythnos i ffwrdd o'r campws yn canolbwyntio'n llwyr ar ddatblygu papurau ymchwil.
Bu'r encil yn llwyddiant ysgubol i bawb a oedd yno, ac roedd y cyfle i ddysgu gan gydweithwyr mor brofiadol o fewn yr ysgol yn amhrisiadwy. Byddai Sophie yn argymell y cyfle encil ysgrifennu i unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r amser neu'r cyfle i feddwl i ddatblygu eu papurau ymchwil. Roedd hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â chydweithwyr eraill yn yr ysgol a dysgu am eu meysydd ymchwil.