Ewch i’r prif gynnwys

Dengys dadansoddiad fod cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad yn chwarae rhan sylweddol yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

9 Chwefror 2023

Illustration of Businessman and businesswoman on piles of coins

Mae cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad yn ffactor pwysig ond sy’n cael ei anwybyddu y tu ôl i'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn ôl dadansoddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Bu academyddion yn Ysgol Busnes Caerdydd yn dadansoddi data gweithwyr ar draws y DU i asesu effaith cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad.

Canfu eu canlyniadau fod crynodiad is o weithwyr benywaidd mewn swyddi â chyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad o’u cymharu â swyddi nad oedden nhw’n destun cyflog ar sail perfformiad, yn enwedig ar ben uchaf y sbectrwm cyflog, lle mae taliadau bonws yn fwy cyffredin.

Er y dangoswyd bod cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad yn effeithio’n gyson ar y sector cyhoeddus, daeth yn fwyfwy pwysig yn y sector preifat mewn swyddi â chyflogau uwch.

Mae gan wahaniaethau rhwng y rhywiau o ran y ffordd y caiff cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad ei wobrwyo yn achos dynion a menywod rôl ychwanegol ond mwy cymedrol wrth ehangu’r bwlch cyflog cyfartalog rhwng y rhywiau.

Mae dadansoddiad y tîm yn dod i’r casgliad mai 12% yw’r bwlch cyflog yn gyffredinol rhwng y rhywiau o ran cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad, gan wneud cyfraniad mwy na llawer o ddylanwadau eraill, megis deiliadaeth neu statws cyflogaeth dros dro.

Dyma a ddywedodd y prif awdur Dr Ezgi Kaya: “Mae ein hymchwil yn dangos crynodiad is o fenywod mewn swyddi â chyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad. Hwyrach mai’r hyn sy’n esbonio hyn yw dewis personol o ran y mathau o swyddi y mae menywod yn mynd amdanyn nhw, neu gyfyngiadau o ran mynediad at y mathau hyn o swyddi. Ond yr hyn sy'n amlwg yw bod cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad yn ehangu'r bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau yn sylweddol.

“Mae gan hynoblygiadau ymarferol i gyflogwyr o ran llunio eu systemau talu. Mae angen rhagor o ymchwil i wybod a oes angen rhoi rhagor o sylw i’r maes polisi hwn. Os yw sefydliadau eisiau mynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, mae cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad yn faes y mae angen ei ystyried go iawn os ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â denu gweithwyr benywaidd.”

Tynnwyd data’r astudiaeth o’r tâl fesul awr a’r cyflog blynyddol sy’n gysylltiedig â pherfformiad gan sefydliadau i Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae sylw ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn tueddu i ganolbwyntio ar y gweithiwr cyffredin. Mae’r dadansoddiad diweddaraf hwn yn edrych ar ddosbarthiad cyfan y cyflog, gan alluogi academyddion i asesu rôl cyflog sy’n gysylltiedig â pherfformiad o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhlith gweithwyr cyflog isel ac uchel.

Mae’r papur trafod, Performance-related Pay and the UK Gender Pay Gap, yn rhan o Gyfres Papurau Trafod y Sefydliad Llafur Byd-eang.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.