Llwyddiant cymrodoriaeth ymchwil uwch
3 Chwefror 2023
Mae Dr Barbara Gentili, Cymrawd Gyrfa Gynnar Ymddiriedolaeth Leverhulme yn yr Ysgol Cerddoriaeth, wedi sicrhau cymrodoriaeth ymchwil uwch tair-blynedd ym Mhrifysgol Surrey.
Bydd y rhaglen yn galluogi Dr Gentili i ddatblygu rhwydwaith rhyngwladol o ysgolheigion, ymarferwyr a chynrychiolwyr o’r diwydiannau diwylliannol, gan gynnwys sefydlu partneriaethau hirdymor.
Bydd ei phrosiect ymchwil yn trin a thrafod y rhyngweithio rhwng corff perfformio’r canwr a thechnolegau recordio, gan gynnwys effaith y rhyngweithio hwn ar lunio rhyw, hunaniaeth a dosbarth drwy gydol yr 20fed ganrif.
O'r ffonograff i'r sain-ar-ffilm, bydd Dr Gentili yn ystyried ym mha ffordd y cafodd gwahanol dechnolegau recordio ddylanwad ar y berthynas rhwng canu operatig a chanu poblogaidd, gan gynnwys y berthynas rhwng canu ac actio, a thrwy hynny’n ail-fframio ysgolheictod yn y dyniaethau a’r celfyddydau creadigol.
Dywedodd Dr Gentili: “Cyfle cyffrous iawn yw hwn, sy’n rhoi’r cyfle i mi greu canolfan ymchwil bwysig ac angenrheidiol iawn ar gyfer sain wedi’i chyfryngu mewn astudiaethau llais. Diolch i Brifysgol Caerdydd, lle roeddwn yn Gymrawd Ymddiriedolaeth Leverhulme yn ymchwilio i berfformiad ffeministiaeth ar doriad y diwydiant recordio, roeddwn yn gallu meddwl am y syniad hwn. Rwy’n ddiolchgar dros ben i’r Athro Clair Rowden, gan fy mod wedi elwa’n fawr o gael fy mentora ganddi. Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghydweithwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth.”