Cyfarwyddwr Ymchwil Mathemateg Caerdydd yn arwain yr Encil Cyntaf i Fenwyod mewn Mathemateg Gymhwysol
2 Chwefror 2023
A hithau’n arwain y ffordd unwaith eto mewn cymhwyso atebion, dechreuodd Cyfarwyddwr Ymchwil Fathemategol Caerdydd, Dr Angela Mihai yn 2023 gan lansio cynhadledd beilot lwyddiannus er mwyn cefnogi ymchwilwyr gyrfaol benywaidd ym maes mathemateg.
Cynhaliwyd yr Encil i Fenywod mewn Mathemateg Gymhwysol ym mis Ionawr yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Fathemategol yng Nghaeredin, lle mae’r cyd-letywr yr Athro Aparna Majumdar yn gweithio ym Mhrifysgol Ystrad Clyd.
Diben yr Encil oedd cefnogi mathemategwyr benywaidd ar ddechrau eu gyrfa a rhyngweithio rhyngddynt. Bu’r digwyddiadau’n cynnwys cyfranogwyr yn rhannu ymchwil yn rhif y gwlith o ddiddordebau mathemategol. Bu hefyd lle am rwydweithio, trafodaethau gyrfaol a sut i gydbwyso gyrfa fathemategol â bywyd.
Mae astudiaethau wedi dangos, er bod tua 40% o israddedigion mathemateg yn y DU yn fenywod, mae gostyngiad serth mewn menywod sy'n dewis gwneud y naid i athrawiaeth (dim ond 6% o athrawon mewn un astudiaeth ledled y DU yn fenywod). Gall cynadleddau fel y rhain ffurfio rhan hanfodol mewn cefnogi menywod mewn mathemateg gyda modelau rôl gweladwy, hwyluso trafodaethau tryloyw ynghylch llywio heriau proffesiynol, yn ogystal ag ailfywiogi brwdfrydedd drwy ddarparu mannau diogel, cefnogol i rannu cariad at fathemateg.
Dywedodd y myfyriwr PhD ym Mathemateg Caerdydd Layla Sandeghi Namaghi, a fu'n bresennol ac a gyflwynodd yn yr Encil, ei bod "bob amser yn ddiddorol clywed am yr holl gymwysiadau o fathemateg y mae ymchwilwyr yn gweithio arnynt, a rhannu cyflwyniad am fy ngwaith ar ddulliau PGD Sgwariau Lleiaf ar gyfer datrys PDEs eliptig."
"Roedd yn ofod diogel a chefnogol iawn i drafod llwybrau gyrfaol, EDI, sut i jyglo eich bywyd personol a phroffesiynol, a llawer mwy. Diolch i'r ICMS, Prifysgol Caeredin, ac i'r trefnwyr Dr Angela Mihai a'r Athro Apala Majumdar am wneud i hyn ddigwydd. Diolch hefyd i bawb arall a gyfrannodd - dwi mor ddiolchgar fy mod yn gadael â llawer o atgofion positif a ffrindiau newydd. Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn digwydd yn y dyfodol!"
Yn y gorffennol, derbyniodd Prifysgol Caerdydd sawl Gwobr Athena SWAN, sy'n cael eu dyfarnu i adrannau academaidd sy'n gwneud cyfraniadau sylweddol at hyrwyddo cydraddoldeb rhyweddol mewn addysg uwch. Mae'r adrannau Mathemateg, Gwyddorau'r Ddaear a Ffiseg a Seryddiaeth i gyd wedi derbyn gwobrau arian neu efydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gydag ymdrechion fel y rhain yn parhau, gall Prifysgol Caerdydd barhau i arwain y ffordd o ran bod yn gyrchfan sy'n arwain y byd ac yn gyfartal i bob myfyriwr ddechrau a pharhau â'u teithiau academaidd.