School of Music concert series
2 Chwefror 2023
Dyma'r Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth, yn sôn am gyfres o berfformiadau Piano sydd ar y gweill.
"Y Gwanwyn hwn, bydd tymor y cyngherddau yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn cael ei lansio gan gyfres o dri pherfformiad cyffrous ar y Piano gan artistiaid gwadd.
"Y seren o Gymru, Rachel Starritt, fydd yn agor y gyfres gyda cherddoriaeth mewn dull byrfyfyr, gan gynnwys clasurol, argraffiadol, a jazz – dylai’r gynulleidfa fod yn barod i gymryd rhan! Bydd Catherine Milledge a Roger Owens yn cynnig gwaith hynod ddiddorol o'r repertoire Clasurol/Rhamantaidd. Ac yn olaf, ond nid lleiaf o bell ffordd, rydym yn croesawu Clare Hammond unwaith eto, fydd yn chwarae darnau o'i halbwm diweddaraf, a byddwn hefyd yn mwynhau gwaith newydd a llawn dychymyg gan Dr Litang Shao o’r Ysgol Cerddoriaeth yma yn y Brifysgol.
"Mae mynediad am ddim i fyfyrwyr a staff y brifysgol i holl ddigwyddiadau'r Ysgol Cerddoriaeth drwy gydol y semester, gan gynnwys cyngherddau diwedd tymor ensembles ein hysgol. Eleni:
- bydd y Pop Collective, a'n Ensemble Drymio Gorllewin Affrica yn cydweithio mewn perfformiad yn Undeb y Myfyrwyr
- Caiff Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd ei harwain mewn cyngerdd am y tro cyntaf gan ein harweinydd newydd Rita Mikhailova yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
- bydd ein hofferyn taro Javanese Gamelan newydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gydag ensemble Nogo Abang
- bydd ein Hofferynnau Chwyth Symffonig yn perfformio cerddoriaeth a chwaraewyd ganddynt yng Ngŵyl Genedlaethol y Bandiau Cyngerdd.
"Edrychwn ymlaen at eich gweld!"