Ewch i’r prif gynnwys

"Bu'r cymorth a gefais gan y brifysgol yn anhygoel ac yn bendant yn aruthrol."

31 Ionawr 2023

The front of Cardiff University's Glamorgan building

Bu Deeksha Sharma, a raddiodd ym maes Polisïau Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc) yn sgwrsio â ni am ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Pam dewisoch chi ein rhaglen Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc)?

Mae sawl rheswm i mi ddewis Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc). Roedd y cwrs yn ymddangos fel petai wedi'i deilwra i mi. Nid oedd y modiwlau’n cynnwys yr holl agweddau ymarferol a dull ar bolisi cyhoeddus yn unig, roeddent hefyd yn annog myfyrwyr i feddwl yn galetach am gysyniadau fel tlodi, lle menywod yn y gymdeithas a sut mae ymyriadau’n cael eu cynllunio a’u gwerthuso.

Yn ogystal, roedd yr hyn sydd gan Gaerdydd fel dinas i'w gynnig i'w myfyrwyr rhyngwladol yn apelio. Yn ogystal â bod yn ddinas gyfleus i gael mynediad iddi, roedd Caerdydd yn llawn ymdeimlad o garedigrwydd a chymuned yr oeddwn yn ei deimlo ym mhob man yr awn i.

Sut gwnaeth y brifysgol hwyluso eich rhaglen a’ch amser yng Nghaerdydd?

Bu'r cymorth a gefais gan y brifysgol yn anhygoel ac yn bendant yn aruthrol.

Roedd yr athrawon yn hynod garedig ac amyneddgar; roedd y dosbarthiadau bob amser yn drafodaeth yn hytrach na darlith unochrog. Roedd yr adnoddau a oedd gennym o ran y cyfleusterau llyfrgelloedd a mynediad i wahanol bapurau ymchwil a chronfeydd data o werth mawr.

Dyluniwyd yr aseiniadau mewn modd a aeth i hwyluso ein paratoadau tuag at y thesis, a’r mentora a gefais wrth ysgrifennu fy nhraethawd ymchwil yn bendant oedd uchafbwynt fy nghwrs, gan mai yn ystod y cyfnod hwn roeddwn yn gallu cymhwyso’r sgiliau a enillais yn ystod fy nghwrs meistr gyda llawer o gymorth ac amynedd gan fy mentoriaid.

Beth oeddech chi'n ei hoffi am y rhaglen a'r brifysgol?

Roedd y rhaglen yn llawn mewnwelediad ac agorodd fy meddwl i wahanol ffyrdd o werthuso a dylunio polisïau. Roedd yn rhoi golwg gyfannol ar y problemau mewn polisi o amgylch y byd a sut yr astudir y rhain.

Yn ogystal, roedd profiad Prifysgol Caerdydd yn rhagori ar yr hyn roeddwn i wedi’i ddisgwyl. Dyma'r gymuned fwyaf cynhwysol rydw i wedi bod yn rhan ohoni. Roedd seilwaith ein hystafelloedd dosbarth, y llyfrgelloedd ac undeb y myfyrwyr yn fy syfrdanu bob tro yr oeddwn yn gosod fy nhroed yn yr adeiladau hyn.

Roedd y llyfrgelloedd yn cynnwys digonedd o gyfarpar a mannau tawel i weithio. Roedd undeb y myfyrwyr bob amser yn llawn bywyd a gweithgareddau ac nid oedd unrhyw bryder yn cael ei godi heb i rywun ddelio ag ef. Roedd rhywun yn gwrando arnaf ac yn gofalu amdanaf bob tro roedd problem gen i.

Beth wnaethoch chi nesaf, ac a wnaeth y rhaglen eich helpu i wneud hyn?

Yn ystod diwedd ein cwrs y trawyd y byd gan y pandemig. Fodd bynnag, euthum ymlaen i interniaeth gyda Chomisiwn Deialog a Datblygu Delhi, melin drafod polisi Llywodraeth Delhi, lle astudiais agweddau ar Gyfradd Cyfranogiad Merched Llafur yn Delhi ac India yn gyffredinol.

Roeddwn i'n gallu rhannu'r hyn a ddysgais o’m rhaglen feistr â'r garfan fwy a barodd i mi ddehongli'n feirniadol y materion y mae menywod yn India yn eu hwynebu’n gyffredinol ac awgrymu ymyriadau a oedd fwyaf addas ar gyfer y cyd-destun.

Fy amser yn ystod fy nghwrs meistr a blannodd hedyn datblygiad cynhwysol gan fod fy nhraethawd ymchwil hefyd yn seiliedig ar rannau o'r gymdeithas yr effeithir arnynt i raddau helaeth ac nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y drafodaeth am bolisi.

Yn ogystal, fi hefyd yw Llywydd Gwladol Karnataka, Cyngor Caffael a Chyflenwi WICCI (Siambr Masnach a Diwydiant Merched India) lle mae gennyf y fraint o weithio gyda llawer o fenywod eraill sy'n ymdrechu i gefnogi a gwella sefyllfa menywod yn yr economi. .

Rwyf hefyd yn gyd-sylfaenydd brand bwyd iach o'r enw Holy Froots. Rydyn ni ar genhadaeth i bontio'r bwlch rhwng bwyta cyfannol a modern.

Mae ansicrwydd bwyd a diffyg maeth yn broblem fawr sy’n wynebu India a thrwy'r brand hwn edrychwn ymlaen at gynorthwyo ac ychwanegu at faeth i'r rhannau o'r gymdeithas sy'n wynebu newyn a thlodi bwyd eithafol.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Deeksha am roi o’i hamser i siarad â ni.

Rhagor o wybodaeth am y cwrs Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc).

Rhannu’r stori hon