"Cefais y fraint o fod yn rhan o adran ardderchog yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol."
31 Ionawr 2023
Bu Sally Bardayán Rivera, a raddiodd ym maes Polisïau Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc) yn sgwrsio â ni am ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Pam ddewisoch chi ein rhaglen Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc)?
Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog. Cefais y pleser o ymweld â'r ddinas cyn i mi wneud cais, felly roeddwn yn gwybod fy mod yn ei hoffi. Roeddwn yn adnabod rhywun a oedd yn fyfyriwr yno a oedd yn ei hargymell.
Roeddwn wedi ymchwilio rhaglenni polisi cymdeithasol a chyhoeddus ac roedd Caerdydd yn cynnig yr un perffaith. Roedd gen i ddiddordeb mewn polisi cyhoeddus ac roedd polisi cymdeithasol yn bwysig i mi hefyd, ac felly roedd y rhaglen hon yn cynnig y gorau o’r ddau fyd!
Sut wnaeth y brifysgol hwyluso eich rhaglen a’ch amser yng Nghaerdydd?
Cefais y fraint o fod yn rhan o adran ardderchog yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.
Roedd y rhaglen yn eithaf bach a oedd yn golygu bod fy athrawon a goruchwylwyr ar gael i'm harwain a'm helpu pan oedd ei angen arnaf. Roedd y cyfleusterau'n ardderchog, gan gynnwys llyfrgell arbenigol yr ysgol.
Beth oeddech chi'n ei hoffi am y rhaglen a'r brifysgol?
Roeddwn i wrth fy modd â ffocws amlddisgyblaethol y rhaglen. Roeddwn yn gallu ymchwilio i bwnc a oedd yn agos iawn at fy nghalon a chefais arweiniad gan fy ngoruchwyliwr bob cam o'r ffordd. Fe wnes i fwynhau'r modiwlau craidd yn fawr ac fe wnaethon nhw roi sail gadarn i'm dealltwriaeth ar bolisi.
Ar y llaw arall, roedd byw yng Nghaerdydd yn brofiad hynod ddiddorol. Mae'n brifddinas sydd â phopeth. Mae Cymru'n wlad brydferth, wnes i fwynhau ymweld â llwybr arfordir Cymru yn ogystal â cherdded i fyny Pen y Fan.
Beth wnaethoch chi nesaf, ac a wnaeth y rhaglen eich helpu i wneud hyn?
Ar ôl fy ngradd meistr, dychwelais i Panamá, fy mamwlad. Dechreuodd y pandemig yn fuan wedyn.
Fe wnes i gais a chael fy nerbyn i Raglen Ddiplomyddol y Gwasanaeth Sifil. Rwyf bellach yn fy swydd gyntaf yng Nghenhadaeth Barhaol Panamá i Sefydliad Masnach y Byd (WTO) a Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Fasnach a Datblygiad (UNCTAD) yn Genefa, y Swistir.
Mae gweithio mewn amgylchedd amlochrog wedi bod yn brofiad hynod gyfoethog, yn bersonol ac yn broffesiynol.
Roedd y misoedd cyntaf yn gromlin ddysgu serth ond fe wnaeth y rhaglen a fy mhrofiad gyda pholisi fy helpu i feddwl yn ddadansoddol am y materion yr ydym yn eu trafod yn y sefydliadau rhyngwladol hyn.
Mae gan y rhan fwyaf o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yn ddiplomyddion a thrafodwyr yn Sefydliad Masnach y Byd lawer i'w wneud â deall diddordebau a sensitifrwydd gwledydd eraill. Rydym yn ceisio dod o hyd i dir cyffredin i ddod i gytundebau a phenderfyniadau sy'n rhwymo'n rhyngwladol, ac felly gallwn gyfrannu at gyrraedd y nodau datblygu cynaliadwy.
Yn yr ystyr hwnnw, roedd fy nghwrs ar bolisi cymdeithasol a chyhoeddus rhyngwladol a chymharol yn hynod ddefnyddiol wrth fy mharatoi i feddwl yn feirniadol am faterion trawsbynciol sy'n effeithio ar bob gwlad, megis newid yn yr hinsawdd, tlodi, diweithdra, materion rhywedd, ac ati.