Mae cyfle ar gael i weithwyr llawrydd creadigol a busnesau i wneud cais am gyllid sbarduno
30 Ionawr 2023
Gall pobl greadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wneud cais am hyd at £10,000 o gyllid sbarduno, diolch i lansiad Ffrwd Arloesedd Media Cymru.
Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, nod Media Cymru yw troi sector cyfryngau Caerdydd a'r rhanbarth cyfagos yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesedd, gyda ffocws ar dwf economaidd gwyrdd a theg. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd yn cefnogi busnesau ac unigolion yn y sector greadigol gyda chyfres o gylchoedd cyllido, hyfforddiant a chyfleoedd ymchwil.
Agorodd ceisiadau ar gyfer Cronfa Sbarduno gyntaf Media Cymru ar 23 Ionawr, gan gynnig cyfle i grewyr sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil a datblygu syniadau newydd.
Dywedodd Lee Walters, Uwch Gynhyrchydd a Rheolwr Ariannu, Media Cymru: “Mae'r rownd gyntaf hon o gyllid sbarduno Media Cymru yn gyfle gwirioneddol i feddylwyr creadigol archwilio syniadau cychwynnol trwy gyfnod o ymchwil a datblygu gyda chefnogaeth.
“Rydym yn gwybod bod Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn orlawn o grewyr sydd â syniadau gwych, ac rydym ar bigau’r drain i glywed y syniadau hyn, eu helpu i'w troi'n realiti, a chydweithio i gyflymu arloesedd yn sector y cyfryngau yn y rhan hon o'r byd.”
Drwy Ffrwd Arloesedd Media Cymru, bydd cefnogaeth ariannol yn rhoi cyfle i bobl greadigol o Gymru ddatblygu syniadau chychwynnol i fod yn brosiectau llawn, dilys. Dros gyfnod o dri i bum mis, bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael eu cefnogi gan arbenigwyr o Gonsortiwm Media Cymru - ADP a'r Alacrity Foundation.
Ar ôl cwblhau prosiectau a ariennir gan sbarduno yn llwyddiannus, gall ymgeiswyr hefyd fod yn gymwys i wneud cais am gymorth pellach drwy Gyllid Datblygu Media Cymru, a fydd yn cael ei lansio ym mis Gorffennaf 2023.
Mae Media Cymru yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, gyda chyllid a ddarperir drwy brif gronfa Strength in Places gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, cymorth ychwanegol gan Gyngor Caerdydd, partneriaid yn y diwydiant a phrifysgolion, yn ogystal â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Meddai Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon: “Rydym yn gwybod bod Cymru'n gartref i grewyr a chynhyrchwyr sy'n gwneud cyfraniad enfawr i'n heconomi a'n proffil rhyngwladol. Yn unol â'n hymrwymiad gan y Rhaglen Lywodraethu i gefnogi mwy o ymchwil a datblygu yn y sector creadigol, mae Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol yn cefnogi Media Cymru i sicrhau bod mentrau fel y gronfa sbarduno hon yn galluogi rhagor o dalentau Cymreig i wneud datblygiadau arloesol newydd.
“Mae'r gronfa sbarduno hon yn fwy na cymorth i lansio syniadau newydd. Mae'n cynrychioli buddsoddiad a fydd yn sicrhau elw gwirioneddol i'n heconomi a'n cymdeithas, wrth i Gymru ddod yn ganolfan ryngwladol ar gyfer arloesedd yn y diwydiannau creadigol.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.media.cymru