Caerdydd yn penodi Pennaeth Masnacheiddio newydd
30 Ionawr 2023
![A photograph of Paul Devlin stood with his arms crossed facing the camera](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2697794/Paul-Devlin.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Prifysgol Caerdydd wedi penodi Pennaeth Masnacheiddio ac Effaith Ymchwil newydd. Bydd yn gyfrifol am droi ymchwil academaidd yn fusnesau ac yn entrepreneuriaeth.
Mae Paul Devlin, a fu gynt yn Bennaeth Masnacheiddio ym Mhrifysgol Heriot-Watt, yn dod a pheth wmbreth o brofiad sy'n rhychwantu rolau technegol a masnachol arloesol, boed ymchwilio ym maes meddalwedd dal patentau, bod yn sylfaenydd cwmni deillio yn ogystal ag yn fuddsoddwr mewn rhaglenni Ymchwil a Datblygu.
Yn ogystal â helpu busnesau twf uchel newydd i fasnacheiddio technoleg sy’n gweddnewid byd busnes, sefydlodd Paul swyddfa Mercia yn yr Alban, sef un o gronfeydd buddsoddi mwyaf gweithgar prifysgolion y DU a bu’n bennaeth entrepreneuriaeth myfyrwyr ym Mhrifysgol Caeredin pan oedd yn Rheolwr Creu Cwmnïau.
Dyma’r hyn a ddywedodd Paul: “Rwy'n falch iawn o ymuno â thîm masnacheiddio ac effaith Prifysgol Caerdydd. Mae gan y Brifysgol hanes rhagorol o droi ymchwil academaidd yn gwmnïau deillio a busnesau newydd, creu a datblygu partneriaethau diwydiant, a chefnogi myfyrwyr i droi syniadau creadigol yn gyfleoedd busnes.
“Rwy'n edrych ymlaen at gryn nifer o heriau sylweddol yn y swydd hon, yn enwedig ym maes datblygu effaith yr ymchwil a’r masnacheiddio sy’n digwydd yn sgîl Sefydliadau Arloesi newydd Caerdydd, a thrwy feithrin partneriaethau cyffrous newydd yng nghyfleusterau hybu'r Brifysgol. Mae Arloesedd Caerdydd, yn adeilad newydd sbarc|spark, a'r Medicentre yn lleoedd delfrydol ar gyfer ein cwmnïau deillio yn ogystal â chwmnïau uwch-dechnoleg allanol sy'n gweld manteision cydleoli ochr yn ochr â'n hymchwilwyr o'r radd flaenaf.”
“Bydda i hefyd yn gweithio'n agos gyda Phartneriaeth SETSquared i ddatblygu ein perthynas sydd wedi bod ar waith ers blwyddyn. Y cwmni hybu busnes hwn, sydd hefyd yn bartneriaeth fentro, yw’r gorau yn y byd, Mae’n rhan o chwe phrifysgol ymchwil-ddwys - Bryste, Caerdydd, Caerfaddon, Caerwysg, Southampton a Surrey - ac mae'n ymroddedig i fynd â byd ymchwil i'r farchnad.”
Prifysgol uchelgeisiol ac arloesol yw Prifysgol Caerdydd. Mae ganddi weledigaeth feiddgar a strategol sy’n seiliedig ar addysgu ac ymchwil ragorol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Ein delfryd yw bod ymhlith prifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd o ran ymchwil ragorol, addysg o’r radd flaenaf, creadigrwydd a chwilfrydedd gan gyflawni ein cyfrifoldebau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, y DU a’r byd. Drwy wireddu ein gweledigaeth, byddwn ni’n gwella ein statws o fod yn un o’r 100 o brifysgolion gorau’r byd ac un o’r 20 o brifysgolion gorau’r DU.
Dyma a ddywedodd Dr Dave Bembo, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Paul i Gaerdydd. Mae hanes Paul o lwyddo ym maes masnacheiddio ymchwil a throsglwyddo technoleg, ynghyd â'i allu diamheuol i gydweithio ag uwch-arweinwyr byd prifysgol, ymchwilwyr a sefydliadau allanol, yn rhoi'r hwb sydd ei angen arnon ni i ehangu ein gweithgareddau entrepreneuraidd ac arloesi’n effeithiol.”
Arloesedd Caerdydd yw cartref y ddinas ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd. Mae’n cynnig ystod o wasanaethau a lleoedd dros bedwar llawr, gan gynnwys swyddfeydd a lleoedd i gydweithio y gellir eu gosod, lleoedd cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol, cyfleusterau cynadledda o'r radd flaenaf, labordy gwlyb a lleoedd arddangos/cyflwyno ar y cyd gan gynnwys lle cynadledda a chaffi ar y safle.
I gael rhagor o wybodaeth am wneud busnes gyda Phrifysgol Caerdydd, cysylltwch â devlinp1@caerdydd.ac.uk