Datganoli ac anhawster dargyfeirio
27 Ionawr 2023
Yn ôl cyhoeddiad academaidd newydd gan Dr Alison Tarrant, mae Cymru yn wynebu heriau mawr wrth droi ei gwerthoedd gwleidyddol yn realiti ym maes gofal cymdeithasol oedolion.
Yn yr erthygl, a gyhoeddodd Critical Social Policy, mae academydd o Brifysgol Caerdydd yn dadlau bod Llywodraethau olynol Cymru wedi ceisio datblygu polisi sy’n gwrthod yr egwyddorion marchnata ac unigoleiddio sydd wedi nodweddu polisi sector cyhoeddus llywodraethau’r DG ers degawdau.
Ond mae’r awdur yn canfod bod Llywodraethau Cymru hyd yma wedi brwydro i lunio polisïau gofal cymdeithasol sy’n ymgorffori eu hegwyddorion datganedig, gan ei chael yn anodd gwyro oddi wrth yr hegemoni polisi neoryddfrydol sy’n bodoli ar hyn o bryd yn y DG a chyd-destunau cenedlaethol eraill.
Drwy olrhain datblygiad prosesau llunio polisïau Llywodraeth Cymru mewn dogfennau strategaeth rhwng 2007 a 2021, yn ogystal â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o bwys, mae Dr Tarrant yn amlinellu bod agweddau Llywodraeth Cymru at daliadau uniongyrchol a’r cysyniad o ofal cymdeithasol fel “marchnad” wedi newid dros amser. Mae’r posibilrwydd o weithredu model gofal cymdeithasol newydd ar sail egwyddorion sy’n wahanol i rai llywodraethau olynol y DG yn parhau i fod yn ansicr. Er, er enghraifft, bod mecanweithiau polisi ar gyllidebau personol wedi'u gwrthod gan weinyddiaethau Cymru, mae'r awydd a nodwyd i ddatblygu polisi arloesol i annog darpariaeth gofal dielw wedi'i gyfyngu gan “wrthdrawiad rhwng egwyddor a realiti".
Gan edrych tuag at ddiwygio gofal cymdeithasol yn y dyfodol ac ymdrechion a allai gael eu hadfywio i ddatblygu model gofal sy’n adlewyrchu egwyddorion Llywodraeth Cymru, mae Dr Tarrant yn galw am dryloywder ynghylch yr heriau cysyniadol y mae’r wlad yn eu hwynebu, ond hefyd mwy o hyder yn sut i “feithrin hunaniaeth unigryw o ran polisi mewn tir pendant o anffafriol”.