Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r fyfyrwraig MA Dylunio Pensaernïol Fangyi Ke wedi ennill un o Fwrsariaethau Dylunio pwysig LDA yn sgîl ei dyluniad 'House of Cards'

26 Ionawr 2023

Fangyi Ke
Fangyi Ke

Mae’r fyfyrwraig MA Dylunio Pensaernïol Fangyi Ke wedi ennill un o Fwrsariaethau Dylunio pwysig LDA yn sgîl ei dyluniad 'House of Cards'. Nod y dyluniad yw cyfannu myfyrwyr cartref a rhyngwladol amrywiol Prifysgol Caerdydd drwy greu empathi pwrpasol ym maes dylunio trefol.

Gan ragori ar y gystadleuaeth, a hynny mewn blwyddyn pan gafwyd mwy na thraean yn fwy o geisiadau na’r rowndiau blaenorol, ymatebodd Fangyi i her LDA i ddelweddu lle anghofiedig o’r newydd, gan ei ail-greu fel y bydd yn debygol o wella gallu pobl leol i ddod i gysylltiad â’i gilydd yn fwy.

Mae 'House of Cards' Fangyi yn gwella’r lleoedd trefol sydd eisoes ym Mhrifysgol Caerdydd drwy ddylunio ar y cyd dan arweiniad myfyrwyr. Yn rhan o hyn, ceir gwaith celf a ddewiswyd gan fyfyrwyr mewn lleoedd cludadwy sy'n dangos hunaniaethau amlddiwylliannol ac sy’n helpu o ran awydd y myfyrwyr i greu’r ymdeimlad o gymuned. Drwy greu lleoedd hyblyg a rhyngweithiol yn rhan o ‘Bafiliwn Emosiynol’ yng nghlochdŵr campws Cathays, gall grwpiau amrywiol o fyfyrwyr gymdeithasu, rhannu newyddion ei gilydd, dysgu am eu diddordebau cyffredin neu ddathlu llwyddiant â balchder.  Mae arddangosfa ganolog sy’n rhan o ‘House of Cards’ yn gwahodd y sawl yno i lunio 'cardiau' 3D a'u rhoi at ei gilydd mewn gosodiad gweledol trawiadol sy’n newid byth a hefyd ac yn pwysleisio undod.

Gall arloesi trwy gynwysoldeb yn y lleoedd hyblyg hyn fod o fudd mawr i fyfyrwyr rhyngwladol. Fel y mae Fangyi yn ei amlinellu yn ei phrosiect “yn y byd ar ôl y pandemig mae llai o bobl yn rhyngweithio a’i gilydd ar y campws a gall hyn waethygu’r teimlad o unigrwydd a dieithrwch sydd gan fyfyrwyr rhyngwladol.”  Ar hyn o bryd mae Prifysgol Caerdydd yn darparu addysg eithriadol i fwy na 7,700 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 130 o wledydd. Ychwanegodd Fangyi “yn y broses ddylunio, rwy’n gobeithio, drwy gelf a lleoedd pensaernïol hyblyg, y galla i gyfrannu at wneud campws Prifysgol Caerdydd yn lle mwy bywiog a rhoi ymdeimlad o berthyn i fyfyrwyr o bob cefndir.”

Roedd Fangyi wrth ei bodd gyda’r fuddugoliaeth, gan ychwanegu “Roeddwn i wedi fy synnu ac ar ben fy nigon pan ges i’r newyddion. A minnau’n fyfyrwraig ôl-raddedig, mae'r gwaith hwn yn dangos fy nghysylltiad â'r campws a'r hyn rwy wedi’i gyflawni’n academaidd. Rwy'n ddiolchgar am gydnabyddiaeth a chefnogaeth fy ngoruchwyliwr Dr.Hiral Patel a phawb sy’n gysylltiedig â’r MA Dylunio Pensaernïol. Heb gefnogaeth y myfyrwyr eraill a'm goruchwylwyr fyddwn i ddim wedi gallu cwblhau prosiect dylunio proffesiynol o'r fath”.

Ymgynghoriaeth annibynnol, y mae’r gweithwyr yn berchen arni 100% ywLDA Design, sef hyrwyddwyr Gwobrau’r Fwrsariaeth Ddylunio. Yn yr ymgynghoriaeth ceir dylunwyr trefol, penseiri tirwedd a chynllunwyr a’u nod cyffredin yw llunio'r byd er gwell drwy greu tirweddau cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd.

Ochr yn ochr â llwyddiant Fangyi Ke wrth ennill Bwrsariaeth yr LDA gwerth £1000 a lleoliad gwaith yn un o wyth stiwdio LDA ym mis Mawrth, yn sgîl ei gwaith mae hefyd wedi ennill un o wobrau Cynhadledd HEDQF 2022, ac rydyn ni’n ei llongyfarch yn wresog.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ewch i'n gwefan.

Rhannu’r stori hon