Bydd astudiaeth yn ymchwilio i effaith cynnwrf economaidd ar y profiad o waith
30 Ionawr 2023
Bydd profiadau gweithwyr yn cael eu hastudio’n rhan o arolwg mawr dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ac a ariennir yn bennaf gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Bydd Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2023 (SES2023), sydd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Surrey a’r Canolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol, yn helpu academyddion i asesu effaith cyfnod eithriadol o gynnwrf i weithwyr sy’n cynnwys y dirywiad economaidd, yr Argyfwng Costau Byw, Covid-19 a Brexit.
Bydd barn pobl rhwng 20 a 65 oed sy’n gweithio ym Mhrydain yn 2023 yn cael ei holi yn yr wythfed arolwg yn y gyfres. Mae’r arolwg yn casglu data o dro i dro yn ystod y 35 mlynedd diwethaf.
Mae gweithio gartref, a ddaeth yn sgil Covid-19, yn parhau i fod yn rhan enfawr o fyd gwaith. Bydd yr ymchwilwyr yn astudio i ba raddau y mae cyflogwyr yn bodloni dewisiadau gweithwyr o ran ble maen nhw’n gweithio, yn ogystal â’r effaith y mae newidiadau yn lleoliad y gwaith yn ei chael ar gynhyrchiant, dwyster y gwaith, datblygu sgiliau a’r rhagolygon ar gyfer dyrchafiad.
Mae twf gwaith ansicr ac effaith technoleg ar sut mae gweithwyr yn cael eu rheoli’n feysydd ychwanegol y bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio arnyn nhw. Bydd y berthynas rhwng iechyd meddwl a lles gweithwyr a defnyddioldeb cymdeithasol y gwaith a wneir yn cael eu hastudio hefyd.
Dyma a ddywedodd yr Athro Alan Felstead, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Prifysgol Caerdydd: “Mae gweithwyr yn wynebu rhai o’r newidiadau mwyaf yn eu harferion gwaith ers cenhedlaeth. Mae’r argyfwng Costau Byw a’r cynnwrf economaidd presennol wedi dilyn y pandemig byd-eang a Brexit yn gyflym. Heriau enfawr yw’r rhain ond maen nhw hefyd yn creu cyfleoedd i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.
“Er gwaethaf y newidiadau aruthrol hyn, mae diffyg data cadarn o hyd y gall cyflogwyr, llunwyr polisïau ac academyddion eu defnyddio’n sylfaen wrth iddyn nhw ystyried dyfodol gwaith. Ein gobaith yw y bydd yr Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth yn rhoi’r arbenigedd cadarn ac awdurdodol sydd ei angen i sicrhau bod cynhyrchiant, yn ogystal â lles y gweithwyr, wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ar gyfeiriad gwaith ym Mhrydain yn y dyfodol.”
Cynhaliwyd yr Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth diwethaf yn 2017. Roedd y canfyddiadau hynny’n dangos bod:
- Gweithwyr ym Mhrydain yn gweithio'n galetach nag erioed o'r blaen. Roedd bron i hanner (46%) ohonyn nhw’n cytuno’n gryf bod eu swydd yn gofyn iddyn nhw weithio’n galed iawn o gymharu â dim ond traean (32%) o weithwyr ym 1992.
- Fodd bynnag, roedd y perygl o golli swydd ar ei isaf ers mwy na 30 mlynedd – dywedodd llai nag un ym mhob deg (9%) o weithwyr Prydain yn 2017 ei bod yn fwy tebygol na heb y bydden nhw’n colli eu swydd yn ystod y 12 mis nesaf. Dyma hanner y gyfran (18%) o weithwyr a ddaeth i gasgliad tebyg yn 2012.
- Serch hynny, nid oedd ansicrwydd wedi diflannu, gan fod 1.7 miliwn o weithwyr yn dweud eu bod yn bryderus y byddai eu horiau gwaith yn newid yn annisgwyl efallai. Roedd y ffigur hwn 2.5 gwaith yn fwy na nifer amcangyfrifedig y gweithwyr ar Gontractau Dim Oriau.
Mae’r canlyniadau hyn wedi dylanwadu ar feddylfryd polisïau llywodraeth y DU o ran maint yr heriau sy’n wynebu’r DU hyd yn oed cyn cynnwrf economaidd yr ychydig o flynyddoedd diwethaf.
Dangosodd dadansoddiaddilynol gan yr Athro Felstead, a wnaed ar ddechrau Covid-19, y byddai naw o bob deg o weithwyr a oedd wedi gweithio gartref yn ystod y cyfyngiadau symud yn hoffi parhau i wneud hynny ryw ffordd neu’i gilydd. Yn dilyn hyn, cafodd ei gomisiynu gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd i lunioadroddiad ar gyfer ymchwiliad y Senedd i weithio o bell.
Ychwanegodd yr Athro Felstead: “Gellid dadlau bod y cylch diweddaraf hwn o’r Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth yn cynnwys un o’r cyfnodau mwyaf ansefydlog y mae gweithwyr wedi’i wynebu. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r ystadegau diweddaraf hyn yn cymharu â’r arolwg a gynhaliwyd gennym cyn i’r holl newidiadau mawr hyn guro’r economi.”
Gwnaed y cylch diweddaraf hwn o ymchwil yn sgîl grant gwerth £2.1 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn bennaf.