Empirisys yn cymryd ei le yn sbarc|spark
25 Ionawr 2023
Mae cwmni o’r enw Empirisys ym maes gwyddor data wedi ymuno ag Arloesedd Caerdydd – cartref mwyaf newydd y ddinas i gwmnïau deillio a busnesau newydd.
Mae’r cwmni, a gafodd ei sefydlu yn 2020, yn creu cynhyrchion ac iddynt bwrpas cymdeithasol: helpu i wneud sefydliadau’n fwy diogel. Peter Sueref
Dywedodd Prif Swyddog Technoleg a sylfaenydd y cwmni, Peter Sueref: “Arloesedd Caerdydd yn adeilad sbarc|spark yw’r lle perffaith i ni, lle mae’r rhai sy’n gweithio yno’n amrywio o grwpiau ymchwil sy’n gweithio ar faterion cymdeithasol drwy ddefnyddio data, i fusnesau newydd arloesol eraill sy’n creu cynhyrchion digidol, gan gynnwys sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi’r ecosystem dechnoleg yng Nghymru.”
Mae Empirisys yn helpu ei gleientiaid i greu llwybrau cyflym at sefydliadau, gweithrediadau, arweinyddiaeth a diwylliant mwy diogel a mwy dibynadwy. Y cwmni yw’r diweddaraf i ymuno â mannau cydweithio Arloesedd Caerdydd, yn dilyn Concentric Health, yr Hwb Arloesedd Seiber ac Antiverse.
Mae Arloesedd Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a mannau dros bedwar llawr, gan gynnwys mannau cydweithio a swyddfeydd y gellir eu llogi, mannau cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol, cyfleusterau cynadledda o ansawdd uchel, labordai gwlyb, mannau cyflwyno/arddangos ar y cyd, man cynadledda â lle i hyd at 200 o bobl a chaffi milk&sugar ar y safle.
Dywedodd Rheolwr Arloesedd Caerdydd, Rhys Pearce-Palmer: “Mae tîm Empirisys yn dod â theimlad go iawn o egni a brwdfrydedd i Arloesedd Caerdydd, ac rydym wedi gallu meithrin perthynas glós yn ein hadeilad gwych, sy’n cynnig popeth sydd ei angen arnoch i ddal i fyny, arddangos a rhwydweithio – mannau trafod cyffyrddus, podiau, swyddfeydd a chaffi.”
Ychwanegodd Peter: “Yn adeilad sbarc|spark, gallwn fod wrth galon arloesedd yng Nghymru. Mae Rhys a'r tîm wedi bod yn gefnogol iawn ers mynd â ni ar daith o gwmpas yr adeilad yr haf diwethaf. Maent wedi ein helpu bob cam o’r ffordd. Bu i ni symud i mewn ychydig cyn y Nadolig (roedd ein coeden Ferrero Rocher yn ddrwg-enwog ar lawr 4 am gyfnod), ac mae eisoes yn teimlo ein bod wedi dod o hyd i’n cartref!
“Mae adeilad sbarc|spark yn mynd i helpu Empirisys i ddenu a chadw’r dalent orau, datblygu ei rwydwaith, bod yn rhan o ymchwil arloesol a thyfu yng nghanol sector technoleg ffyniannus yng Nghymru.”
Oes gennych chi ddiddordeb mewn symud eich busnes? Cysylltwch â Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Arloesedd Caerdydd (yn siarad Cymraeg): pearcer5@caerdydd.ac.uk