Prifysgol Caerdydd yn arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth electroneg pŵer gyda CSA Catapult
24 Ionawr 2023
Mae Prifysgol Caerdydd a’r Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth.
Bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn gosod y sylfeini ar gyfer partneriaeth hirdymor i hyrwyddo ymchwil mewn meysydd lle ceir cryfderau cyffredin a chael effaith gyhoeddus barhaol yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
Llofnodwyd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth mewn digwyddiad yng nghanolfan arloesedd y Catapwlt, a hynny gan yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor Gweithgarwch Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, a Martin McHugh, Prif Swyddog Gweithredol y Catapwlt.
Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn gosod fframwaith ar gyfer datblygu prosiectau ymchwil ar y cyd a cheisiadau am gyllid, cyfnewid staff, rhannu cyfleusterau ac offer, datblygu mentrau addysgu a meithrin sgiliau a thalent ym maes electroneg pŵer.
Mae’r bartneriaeth yn cydnabod cryfderau cyffredin Prifysgol Caerdydd a’r Catapwlt ym maes electroneg pŵer – y maes sy’n ymwneud â phrosesu cerhyntau a folteddau uchel er mwyn pweru sawl cymhwysiad sy’n amrywio o offer electronig y cartref i gerbydau trydan, gan gynnwys ynni adnewyddadwy a thechnoleg y gofod.
Wrth wneud sylwadau ar lofnodi’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth, dywedodd yr Athro Rudolf Allemann: “Roedd yn bleser ymweld â chanolfan arloesedd y Catapwlt er mwyn symud ein partneriaeth waith o bron i bum mlynedd ymlaen i’r cam nesaf."
“Rydym yn edrych ymlaen yn benodol at gydweithio i wella lled-ddargludyddion bwlch ynni eang, o’r broses becynnu i waith integreiddio systemau drwy weithgynhyrchu clyfar, dylunio digidol cyflymach a gweithredu.
"Byddwn hefyd yn cydweithio ar elfennau sylfaenol electroneg pŵer, fel deunyddiau a dyfeisiau arloesol yn ein Canolfan Ymchwil Drosi newydd. Mae’r ganolfan hon, sydd ag Ystafell Lân bwrpasol, labordai ac uned microsgopeg, yn bodoli’n unswydd i alluogi ymchwil i gynhyrchion lled-ddargludyddion cyfansawdd gwyrddach a gwaith i brototeipio a gweithgynhyrchu cynhyrchion o’r fath yn uniongyrchol â’r diwydiant."
Meddai Martin McHugh, Prif Swyddog Gweithredol y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi llofnodi’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth ac wedi sefydlu perthynas ffurfiol â Phrifysgol Caerdydd. Mae'r cydweithio’n adeiladu ar ein perthynas bresennol, a bydd yn atgyfnerthu ein hymdrechion i ddatblygu ceisiadau am gyllid ymchwil, rhannu arbenigedd ac offer, ehangu’r gronfa dalent o beirianwyr medrus ac, yn bwysicaf oll, sicrhau manteision hirdymor i economi'r DU.
“Mae maes electroneg pŵer yn mynd i fod yn hanfodol bwysig i waith y DU i gyrraedd sero net mewn meysydd fel trydaneiddio ac ynni adnewyddadwy. Felly, mae’n hynod gyffrous ein bod yn gallu cyfuno ein galluoedd â rhai Prifysgol Caerdydd a gwneud cyfraniad go iawn at y gwaith o fynd i’r afael â’r heriau hyn.”
Mae’r bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a’r Catapwlt, sy’n aelodau o CSconnected – clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, yn Ne Cymru – yn dechrau ar dir cadarn, gan fod y ddau sefydliad wedi gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd ers i’r Catapwlt gael ei sefydlu yn 2018.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i offer lled-ddargludyddion o’r radd flaenaf, cyfleusterau arloesol a phobl dra medrus sy’n galluogi ymchwilwyr a’r diwydiant i gydweithio er mwyn troi ymchwil yn gynhyrchion.
Labordy electroneg pŵer y Catapwlt yw un o’r canolfannau mwyaf datblygedig a chynhwysfawr yn y DU. Mae’n galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio rhai o’r offer mwyaf soffistigedig dan oruchwyliaeth arbenigwyr o’r radd flaenaf.
Ychwanegodd Dr Wenlong Ming, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Catapwlt, a'r Athro Ingo Lüdtke, Pennaeth Electroneg Pŵer y Catapwlt: “Roeddem yn falch iawn o groesawu ymweliad yr Athrawon Rudolf Allemann a Jianzhong Wu â chanolfan arloesedd y Catapwlt a datblygu strategaethau ar y cyd i atgyfnerthu ein partneriaeth ym maes electroneg pŵer.”
As members of CSconnected—the world’s first compound semiconductor cluster based in South Wales— Cardiff University and CSA Catapult enter the collaboration on a strong footing having worked very closely together since the establishment of the CSA Catapult in 2018.
Cardiff University is home to state-of-the-art semiconductor equipment, cutting-edge facilities and highly skilled people that enables researchers and industry to work together to turn research into products.
CSA Catapult’s power electronics laboratory is one the most advanced and comprehensive centres in the UK, providing customers with access to some of the most sophisticated tools and equipment overseen by world-class expertise.
Dr Wenlong Ming, Senior Research Fellow at CSA Catapult and Professor Ingo Lüdtke, CSA Catapult Head of Power Electronics, added: “We were delighted to host the visit of Professors Rudolf Allemann and Jianzhong Wu at the CSA Catapult Innovation Centre and jointly develop strategies to further strengthen our partnership in power electronics.”