Cadwraeth ac Argyfwng yr Hinsawdd
24 Ionawr 2023
Cadwraethwyr Caerdydd yn cynllunio hyfforddiant i'w roi ar waith mewn amgueddfeydd
Mae cadwraethwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynllunio a chyflwyno cwrs arloesol yn seiliedig ar dechnoleg ac eiriolaeth i alluogi staff amgueddfeydd i wneud newidiadau ymarferol yn y sector treftadaeth.
Gyda sgyrsiau yn mynd rhagddynt dros y ddegawd ddiwethaf am sut i ddatblygu arferion amgueddfa sy’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol, penderfynodd yr Athro Cadwraeth Jane Henderson a’r Darllenydd mewn Cadwraeth Phil Parkes yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, greu cwrs ymarferol gyda’r blaned mewn golwg.
Mae cadwraeth ataliol, y weithred o ofalu am wrthrychau, bob amser wedi'i hymgorffori mewn cadwraeth. Er bod rhai ym maes cadwraeth yn gweithio gyda rhinweddau materol y gwrthrychau er mwyn eu dychwelyd i sefydlogrwydd, mae cadwraeth ataliol yn ymgysylltu â'r amgylchedd a'r cyd-destun lle mae gwrthrych yn cael ei ddefnyddio i greu amodau i alluogi ei ddefnydd yn y tymor hir.
Mae deall effaith paramedrau amgylcheddol fel golau, lleithder neu dymheredd ar sefydlogrwydd deunyddiau'n helpu'r rhai sy'n gyfrifol am gasgliadau i wneud penderfyniadau am y ffordd orau o ddefnyddio'r gwrthrychau hynny a hefyd gadw eu gwerth i'r dyfodol.
Mae'r cwrs yn cynnig cyflwyniad i asiantau sy'n achosi i wrthrychau amgueddfa a threftadaeth ddiwylliannol ddirywio. Mae'r cyfranogwyr hefyd yn archwilio amrywiaeth o strategaethau, o’r technegol i’r rheolaethol, er mwyn deall ac addasu amodau fel golau, tymheredd a lleithder i greu lefelau derbyniol o ofal ar gyfer casgliadau.
Yn arwyddocaol, mae’r cwrs yn hwyluso cynlluniau gweithredu ac adroddiadau syml i sicrhau bod argymhellion yn gywir ac yn ddylanwadol, gyda’r effaith leiaf bosibl ar y defnydd o ynni ac effeithiau cysylltiedig ar yr hinsawdd.
Cynigiwyd y cwrs Rheoli Monitro Amgylcheddol a ddeilliodd o hynny i weithwyr proffesiynol mewn Amgueddfeydd ledled y DU yn ystod haf 2022. Trefnir y cwrs pedwar diwrnod gan Goleg Celfyddydau West Dean ac mae'n torri tir newydd gyda'i ffocws ar sicrhau bod gan y cyfranogwyr sgiliau eiriolaeth i gefnogi eu dyheadau technegol.
Aeth un o'r cyfranogwyr ar y cwrs, Emma Shaw, ymlaen i ddatblygu prosiect wedi'i gynllunio i addasu systemau rheoli hinsawdd yn storfa casgliadau'r amgueddfa yn yr Amgueddfa Dylunio Domestig (MoDA) ar sail yr hyn a ddysgodd.
A hithau'n swyddog cadwraeth ataliol yn MoDA ym Mhrifysgol Middlesex, eglurodd: 'Drwy fynychu'r cwrs cefais yr hyder a'r sgiliau i edrych yn iawn ar arferion cyfredol ac ymchwilio i ffyrdd o wneud y defnydd gorau o'r adnoddau presennol er mwyn datblygu ymagwedd fwy cynaliadwy at gadwraeth ein casgliadau. Dysgodd fi hefyd sut i gyfleu perthnasedd y gwaith hwn yn effeithiol ymhlith cydweithwyr yn yr amgueddfa, ac o'r fan honno allan i gymuned ehangach y Brifysgol.'
Ychwanegodd Rheolwr Casgliadau MoDA, Zoe Hendon:
'Mae ymgyrchwyr hinsawdd wedi cipio penawdau'r newyddion yn ddiweddar trwy daflu cawl at ddarlun Blodau'r Haul Van Gogh. Eu nod oedd tynnu sylw at argyfwng yr hinsawdd trwy fygwth gwrthrychau diwylliannol sy'n annwyl i bawb. Mae'n amlwg na fyddai treftadaeth yn bodoli yn y dyfodol mewn byd sydd ar dân, ond mae'r un mor anodd derbyn bod yr union egwyddor o achub ein treftadaeth yn gwrthdaro ag achub y blaned. Fel llawer o bobl yn y sector, rydym ni wedi ymrwymo i wneud ein rhan i leihau’r defnydd o ynni er mwyn mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd a chostau tanwydd cynyddol ac rydyn ni'n croesawu'r ymyriad ymarferol hwn sy’n ysgogi’r meddwl.'
Mae’r amgueddfa wedi derbyn cyllid gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol i gynnal ymchwiliadau i ystyried effeithiolrwydd celfi storio presennol i alluogi lleihad yn y defnydd o ynni heb beryglu'r amddiffyniad sydd ei angen ar eu casgliadau unigryw yn dilyn y cwestiynau a’r ymyriadau a ystyriwyd ar y cwrs.
Mae cyd-gynllunnydd y cwrs, yr Athro Henderson, wedi bod yn eiriol dros arferion treftadaeth cynaliadwy, gan gynnwys cyhoeddiadau. Dywedodd:
‘Ar adeg pan fo ymgyrchwyr hinsawdd wedi tynnu sylw at fygythiad gwirioneddol a phresennol newid yn yr hinsawdd i’n byd a’n treftadaeth, does amser gwell i ystyried sut y gallai amgueddfeydd leihau’r defnydd o ynni a chadw ein gwrthrychau diwylliannol gwerthfawr yn effeithiol yng nghasgliadau'r amgueddfeydd. Y nod wrth gynllunio'r cwrs oedd cefnogi cydweithwyr ledled y sector i wneud dewisiadau sy'n gyfeillgar i'r blaned a'r hinsawdd heb beryglu cadwraeth ein treftadaeth gyffredin. Mae'n galonogol iawn gweld mentrau lleol ymarferol yn cael effaith.'