Yn cyflwyno’r myfyriwr PhD, Assala Mihoubi
25 Ionawr 2023
Buom yn siarad â myfyriwr PHD o Ysgol y Gymraeg, Assala Mihoubi, i ddarganfod mwy am ei hymchwil, yr hyn a’i harweiniodd ati, a pham y byddai’n annog eraill i ddilyn yr un llwybr academaidd.
Pwy ydych chi, o ble rydych chi'n dod, a beth yw eich cefndir academaidd hyd yn hyn?
Fy enw i yw Assala Mihoubi. Rwy'n dod o Algeria, yn benodol, o ddwyrain Algeria. Mae fy nghefndir academaidd yn cynnwys sosioieithyddiaeth, iaith a chyfathrebu, ac addysgu (a elwir hefyd yn didacteg).
Beth wnaeth i chi benderfynu astudio PhD yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd?
Yn gyntaf oll, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn astudio Polisi Iaith. Pan ddechreuais chwilio am lefydd i astudio ar gyfer PhD, sylweddolais fod Prifysgol Caerdydd yn bodloni fy nisgwyliadau, gyda’r uned ymchwil Polisi Iaith enwog yn Ysgol y Gymraeg, a’r athrawon profiadol sy’n gweithio yno. Yn ogystal, mae Cymru wedi bod yn enghraifft flaenllaw o gychwyn polisïau iaith llwyddiannus ers degawdau. Dewisais Brifysgol Caerdydd ac Ysgol y Gymraeg heb oedi, o ganlyniad i'r ffactorau hyn, ymhlith eraill.
Ydych chi'n byw yng Nghaerdydd? Os felly, beth yw eich hoff beth am y ddinas?
Rydw i wedi byw yng Nghaerdydd ers bron i bedair blynedd bellach. Mae'n ddinas hyfryd, yn fywiog iawn ac yn gyfeillgar i fyfyrwyr. Mae'n amlddiwylliannol iawn; fyddwch chi ddim yn teimlo fel rhywun o'r tu allan. Mae’n groesawgar ac yn oddefgar, ac rwy’n hoff iawn o hyn. Rydw i wedi darganfod lleoedd gwych megis y parciau, llynnoedd, coedwigoedd, traethau, a llawer mwy!
Rhowch drosolwg byr o'ch dewis bwnc ymchwil.
Mae fy ymchwil yn ymdrin â phwnc polisïau iaith a sut y gellir eu hasesu o ran cyfiawnder ieithyddol. Prifysgol Algeria yw fy astudiaeth achos, lle rwy'n astudio'r polisïau a'r arferion i ddeall ac asesu pa mor ieithyddol ydyn nhw. Fy amcanion yw deall yn well sut mae polisïau iaith yn gweithredu ar lefel prifysgolion, a deall pwysigrwydd cymryd cyfiawnder ieithyddol i ystyriaeth wrth gynllunio polisïau yn y dyfodol.
Pam y byddech chi’n annog eraill i wneud PhD yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd?
Rwy’n credu y dylai pobl sydd â diddordeb, nid yn unig yn y Gymraeg ond hefyd mewn amrywiaeth eang o arbenigeddau, wneud cais i fod yn rhan o Ysgol y Gymraeg oherwydd bod yr ysgol yn amlddiwylliannol a chynhwysol iawn. Mae hefyd yn cynnal llawer o weithgareddau academaidd a chymdeithasol trwy gydol y flwyddyn, felly ni fyddwch yn teimlo'n ynysig ac yn unig. Mae cymuned yr ysgol gan gynnwys y staff academaidd, y staff gweinyddol a’r myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn gyfeillgar iawn. Roedd yr ysgol yn teimlo fel ail gartref i mi.