Mae trais a cham-drin eithafol yn gyffredin mewn ceginau elitaidd ledled y byd, yn ôl astudiaeth
23 Ionawr 2023
Mae dioddefaint yn cael ei ystyried yn angenrheidiol os yw pen-gogyddion elitaidd i fod i gyrraedd eu gwir botensial, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.
Cynhaliodd academyddion gyfweliadau dienw, a wnaed ar draws y diwydiant bwytai, â 62 o ben-gogyddion sy'n gweithio mewn bwytai â seren Michelin ledled y byd. Mae’r canlyniadau a’r dadansoddiad, a gasglwyd dros gyfnod o chwe blynedd, yn dangos sut mae diwylliant o ddioddef yn ganolog i’r ffordd y mae unigolion yn creu eu hunaniaeth broffesiynol, a hynny er mwyn ennill cydnabyddiaeth a pharch ymhlith eu cymheiriaid.
Soniodd y pen-gogyddion am anafiadau erchyll a pharhaus yn y gweithle:
Rhoddon nhw enghreifftiau o wynebu ymosodiadau. Dywedodd un cyfwelai fod uwch-gogydd wedi dal cyllell fara am ei wddf, a siaradodd un arall am y profion neu gemau dygnwch yn y gegin:
Siaradodd ymchwilwyr â phen-gogyddion ar bob lefel yn y diwydiant – Pen-gogyddion sy’n berchen ar y busnes, Pen-gogyddion Gweithredol, Prif Ben-Gogyddion, Pen-gogyddion Cynorthwyol a Stagiaires – neu Ben-Gogyddion o dan Hyfforddiant. Yn ogystal â’r DU, ymwelwyd â cheginau yn Ffrainc, yr Eidal, y Swistir, yr Almaen, Gwlad Belg, Denmarc, Tsieina, Awstralia, Singapôr ac UDA.
Mae’r canlyniadau hefyd yn datgelu’r niwed corfforol a meddyliol y bydd yr amodau gwaith hyn hwyrach yn ei gael:
Ond mae’r tîm academaidd, sy’n rhan o Ysgol Busnes Caerdydd, yn dweud bod y canfyddiadau’n dangos bod yr achosion o drais a cham-drin yn cael eu hystyried yn ffordd o greu statws yn y diwydiant, gan ddangos ethos gwaith a chymeriad yr unigolyn: “Os bydd pobl yn gweld bwytai penodol ar eich CV maen nhw'n meddwl: 'wow, roedd wedi para yno am flwyddyn?! Wow. Mae mor galed â’r dur. Mae’n gallu dioddef ei gosb cryn dipyn. Galla i ei weithio'n galetach.”
Dyma a ddywedodd y prif awdur Dr Robin Burrow: “Yr hyn a welson ni yn ystod ein hymchwil oedd bod y dioddefaint eithafol hwn wedi cael effaith a oedd yn uno’r bobl a oedd yn gweithio’n unol â’r amodau hyn. Nid oedd gan ben-gogyddion nad oedd eisiau dioddef fawr o hawl i fod yn aelodau go iawn o'r gymuned goginiol. Doedden nhw ddim yn ben-gogyddion o’r iawn ryw.”
“Y pwynt a gafodd ei ailadrodd dro ar ôl tro ymhlith y rheini a gyfwelwyd gennym oedd na fyddech chi ar eich ennill o fod ag ethos neu eich bod yn gweithio mewn gweithle sy’n glyd neu’n ddiogel lle nad oes pwysau mawr arnoch chi. Hynny yw, fyddech chi ddim yn llwyddo i fod yn ben-gogydd gwych drwy ymlacio neu weithio mewn lleoedd nad oedd yn achosi trafferth. Yn hytrach, er mwyn llwyddo go iawn, dylai pen-gogydd fod yn agored i bob math o galedi dan haul; dyma, yn ôl un pen-gogydd, yw’r llwybr i ffynnu yn y byd.”
Dyma a ddywedodd y cyd-awdur Dr Rebecca Scott: “Mae ein hymchwil yn dangos sut roedd y gallu i ddioddef dioddefaint yn gysylltiedig â syniadau o gyflogadwyedd, cymeriad a gwerth. Ac ar ben hyn, roedd y ffordd y dygymodd y pen-gogyddion dioddefus â’r sefyllfa’n tanlinellu hunaniaethau ar sail grŵp, yn eu cymell i gydnabod ei gilydd ac yn eu plethu ynghyd yn garfanau tynn. Yr hyn sy’n dod i’r amlwg o dipyn i beth yw’r dioddefaint sy’n ganolog i’r ffordd mae’r pen-gogyddion yn deall pwy ydyn nhw ar sail yr unigolyn a’r grŵp cymdeithasol ehangach.”
Ychwanegodd y cyd-awdur, yr Athro David Courpasson: “Gall dioddef drawsnewid y person dan sylw, ond ar ben hynny mae’n esbonio pwy yw ef neu hi.”
Cyhoeddwyd yr ymchwil, Bloody suffering and durability: How chefs forge embodied identities in elite kitchens, yn y cyfnodolyn Human Relations.