Cefnogi'r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE) newydd
24 Ionawr 2023
Bellach gall athrawon yng Nghymru gael mynediad at adnoddau newydd arloesol wrth iddynt baratoi i gyflwyno’r cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) newydd.
Mae’r Athro EJ Renold o Brifysgol Caerdydd wedi gweithio gyda’r Athro Cath Mercer o Goleg Prifysgol Llundain (UCL), a’r Athro Jacqui Gabb a Dr Mathijs Lucassen o’r Brifysgol Agored, yn ogystal â’r elusen iechyd rhywiol Brook ar y prosiect Engaging Sexual Stories.
Gwnaed defnydd o’r celfyddydau creadigol a thechnolegau ar-lein i gynhyrchu ystod o adnoddau dwyieithog i’w defnyddio’n rhad ac am ddim ac fe’u llywiwyd gan Arolwg Cenedlaethol Ffyrdd o Fyw ac Ymddygiadau Rhywiol (Natsal).
Yn ogystal â darparu cymorth ac arweiniad ar gyfer addysgwyr sy’n gweithio mewn ysgolion uwchradd, mae adnoddau’r prosiect yn berthnasol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes iechyd rhywiol a rhyw. Gan ddefnyddio canfyddiadau arolwg Natsal-3, mae adnoddau rhyngweithiol OpenLearn yn galluogi ymwelwyr i archwilio ffeithiau ynglŷn â rhyw ac ymagweddau rhywiol ym Mhrydain.
Cafodd yr adnoddau eu datblygu gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Wellcome.
Lansiodd y tîm yr adnoddau mewn digwyddiad arbennig yn Adeilad Pierhead Senedd Cymru, a noddwyd gan Jenny Rathbone AS.
Daeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn orfodol mewn ysgolion uwchradd yn Lloegr yn 2020. Daeth yn orfodol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru o fis Medi'r llynedd.
Natsal yw un o’r arolygon gwyddonol ymddygiad rhywiol mwyaf yn y byd. Cafodd ei gynnal am y tro cyntaf yn 1990 ac ers hynny mae wedi cael ei gynnal bob 10 mlynedd.
Dyma’r Athro EJ Renold, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Wrth i gyfnod newydd ar gyfer dysgu am gydberthnasoedd a rhywioldeb ddechrau yng Nghymru, mae’n hanfodol bwysig bod athrawon ac ymarferwyr yn derbyn hyfforddiant gorau ar sail tystiolaeth er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn wirioneddol gyflawni ei nodau."
Dywedodd Kelly Harris, Arweinydd Datblygu Busnes a Chyfranogiad, Brook Cymru: “Drwy dynnu ar ymchwil ac arbenigedd o’r prosiect Engaging Sexual Stories, roeddem yn gallu creu cwrs eDdysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb hollbwysig a diddorol newydd sbon ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Bydd y cwrs rhagarweiniol yn helpu i ddatblygu hyder y rhai sy’n cyflwyno’r cwricwlwm newydd ac yn ategu at ein hystod gynhwysfawr o eDdysgu hunangyfeiriedig sydd ar gael am ddim ar Brook Learn."
Dywedodd Cath Mercer, Athro Gwyddor Iechyd Rhywiol yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Phrif Ymchwilydd astudiaeth Natsal: “Ers dros 30 mlynedd, mae Natsal wedi cael effaith sylweddol ar bolisi ac ymarfer, ac wedi chwarae rhan allweddol yn sgyrsiau’r cyhoedd ynghylch rhyw ac iechyd rhywiol, ond mae’r adnoddau ar sail tystiolaeth, rhyngweithiol, newydd hyn yn mynd ag ymgysylltiad y cyhoedd â Natsal i lefel newydd.”
Dywedodd Jacqui Gabb, Athro Cymdeithaseg a Chyfathrach yn Y Brifysgol Agored: “Mae bob un ohonom yn credu ein bod yn gwybod am ryw, ond mae’r wybodaeth hon wedi’i rhagosod ar straeon a phrofiad personol. Mae angen gwybodaeth ar bobl am ryw sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn chwalu’r mythau. Mae adnoddau OpenLearn yn galluogi ymarferwyr iechyd rhywiol a’r boblogaeth gyffredinol i ddysgu am ryw drwy adnoddau rhyngweithiol diddorol a hwyliog sydd ar gael am ddim.
Mae’r Athro EJ Renold yn arbenigwr blaenllaw yn y maes astudiaethau rhywedd a rhywioldeb mewn plentyndod ac ieuenctid. Darllenwch ragor am eu gwaith ymchwil a’u heffaith yma.