Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn arwain ar gais llwyddiannus sef Gwobr Datblygu’r GW4 ar gyfer Meithrin Cymunedau
18 Ionawr 2023
Mae staff Gwasanaethau Academaidd a Phroffesiynol, ynghyd â myfyrwyr o’r pedair prifysgol GW4, wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais am arian o Wobrau Datblygu’r GW4 ar gyfer Meithrin Cymunedau i ddatblygu cymuned ymarfer ym maes STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth.)
Mae Cynghrair y GW4 wedi ariannu tri phrosiect yn rhan o'r Gwobrau newydd; mae'r cynllun ariannu parhaus hwn yn rhoi dyfarniadau o hyd at £5K i gefnogi cydweithrediadau ymchwil ac arloesi newydd neu bresennol ar draws prifysgolion y GW4 sef Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg drwy ariannu gweithgareddau neu adnoddau unigol.
Bydd y prosiect llwyddiannus, a arweinir gan yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, yn defnyddio’r cyllid i helpu i greu cymuned ymarfer GW4 EDI ym maes STEMM (canolfan Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant GW4) gyda’r nod o gyflawni newid diwylliannol ar draws sefydliadau GW4 yn y maes hwn. Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi 2023 gyda chynhadledd 'Ailddiffinio'r status quo yn y byd academaidd' a fydd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd.
MeddaiCosimo Inserra, Uwch Ddarlithydd a Chadeirydd EDI yr Ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae llawer ohonom sy'n ymwneud â'r gymuned hon wedi trefnu mentrau o'r blaen. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau o ran y dull un adran a sefydliad oherwydd gallant fod heb y pŵer i newid diwylliant cyffredinol sefydliadau. Mae degau o adrannau STEMM yn rhan o’r GW4 ac mae’n llwyfan perffaith i greu’r hwb STEMM EDI cyntaf yn y DU, cymuned ymarfer sy’n datblygu methodolegau cydlynol ac arferion da i gefnogi sefydliadau academaidd eraill i feithrin amgylcheddau cynhwysol”.
Mae Cyllid Meithrin Cymunedau’r GW4 yn cefnogi meithrin cymunedau GW4 newydd a datblygu'r syniadau cryfaf sy'n dod i'r amlwg o'n cymunedau presennol, ac mae'n agored i unrhyw faes academaidd. Mae Cynghrair y GW4 wedi buddsoddi dros £3.1 miliwn mewn 112 o gymunedau ymchwil cydweithredol, sydd wedi cynhyrchu £62.8 miliwn mewn incwm ymchwil.
I gael gwybod rhagor am Wobrau Datblygu’r GW4 a'r Gronfa Sbarduno ewch i'rwefan.