Ieithoedd i Bawb
18 Ionawr 2023
Mae rhaglen Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i bob myfyriwr gradd israddedig ac ôl-raddedig ddatblygu sgiliau ieithyddol a diwylliannol allweddol yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd, a hynny yn rhad ac am ddim!
Mae’r rhaglen wedi’i dylunio o amgylch eich astudiaethau ac mae’n cynnig dewis hyblyg o opsiynau amserlen, gan gynnwys cyrsiau wythnosol, cyrsiau carlam a dysgu’n annibynnol.
Mae Javier Cortés Ortuño, a aned yn Chile, ac sy’n fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, wedi cwblhau Ffrangeg Uwch Ganolradd yn ddiweddar, ei bumed cwrs yn rhan o’r rhaglen Ieithoedd i Bawb, sydd wedi bod yn gyfle amhrisiadwy yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol.
Ar ôl cwblhau blwyddyn o Ffrangeg yn yr ysgol gynradd yn flaenorol, canfu Javier fod astudiaethau iaith pellach yn ei famwlad yn gyfyngedig ac, unwaith yng Nghaerdydd, neidiodd ar y cyfle i ymuno â’r rhaglen gan ei fod yn rhywbeth hwyliog a hyblyg i dynnu sylw oddi wrth ei ymchwil.
Mae ei sgiliau newydd wedi bod yn agoriad llygad i fyrdd o wahanol gyfryngau trwy'r iaith gan gynnwys cyflwyniad i lenyddiaeth Ffrangeg, papurau newydd, ffilm, cerddoriaeth a phodlediadau.
Dywedodd Javier: “Os ydych yn ystyried dysgu iaith byddwn yn eich annog i roi cynnig ar Ieithoedd i Bawb. Bydd yn rhoi cyflwyniad gwych i’r iaith i chi, a hyd yn oed os ydych chi eisiau dysgu’r iaith ar eich pen eich hun, gallwch chi wneud y ddau.”
“Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ieithoedd a lefelau i weddu i anghenion myfyrwyr, gan roi ymreolaeth i chi ar eich cynnydd. Roedd yn wych cael dosbarthiadau rheolaidd ac roedd y strwythur yn sicrhau fy mod yn parhau i fod yn ddisgybledig.”
Ar hyn o bryd, maent yn cynnig cyrsiau wythnosol a dwys mewn Arabeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Japaneeg, Tsieinëeg Mandarin, Portiwgaleg, Rwsieg a Sbaeneg.
Bydd y rownd nesaf o gyrsiau carlam wythnos o hyd yn cael eu cynnal 23-27 Ionawr 2023 ac mae ceisiadau ar agor ar hyn o bryd trwy borth SIMS. Cewch ragor o wybodaeth ar fewnrwyd y myfyrwyr neu drwy ebostio languagesforall@caerdydd.ac.uk.