Ewch i’r prif gynnwys

Concentric Health yn defnyddio mannau cydweithio yn sbarc | spark

18 Ionawr 2023

Concentric Health staff members

Mae cwmni meddalwedd sy'n ymroddedig i helpu cleifion a chlinigwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am driniaeth yn defnyddio'r mannau cydweithio yn sbarc | spark.

Mae ap arloesol Concentric Health yn trawsnewid sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am ein hiechyd. Mae’n cael ei lywio gan ddeilliannau i gleifion a'i rannu gan y claf a'r clinigwr - a’r cyfan ar un rhaglen hawdd ei ddefnyddio.

Mae tîm Concentric Health yn defnyddio'r mannau cydweithio yn Arloesedd Caerdydd sydd wedi'i leoli yn adeilad sbarc newydd Prifysgol Caerdydd ac sy’n gartref i lu o fusnesau newydd a chwmnïau deillio.

Dywedodd Dr Patrick Hart, Cydymaith Sylfaenwyr Concentric Health: “Mae Concentric wrth eu bodd yn defnyddio'r mannau cydweithio yn sbarc - adeilad sydd wedi'i ddylunio'n bwrpasol ac sy'n bleser gweithio ynddo. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â'r gymuned yn sbarc|spark a chreu cysylltiadau gyda'r tenantiaid eraill.“

Concentric Health yw'r ychwanegiad diweddaraf at fannau cydweithio Arloesedd Caerdydd gan ddilyn Empirisys, Canolfan Arloesedd Seiber ac Antiverse sydd wedi ymuno’n ddiweddar.

Arloesedd Caerdydd yw cartref diweddaraf Prifysgol Caerdydd ar gyfer busnesau newydd. Mae’n cynnig ystod o wasanaethau a lleoedd dros bedwar llawr, gan gynnwys swyddfeydd y gellir eu gosod yn ogystal â mannau cydweithio, lleoedd i gwrdd yn ffurfiol ac anffurfiol,

cyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf, labordai gwlyb a mannau arddangos/cyflwyno ar y cyd gan gynnwys man cynadledda ar gyfer hyd at 200 o bobl, ac mae caffiLlaeth a Siwgr ar y safle hefyd.

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Arloesedd CaerdyddRhys Pearce-Palmer: “Rydym yn falch iawn o groesawu Concentric Health i’n mannau cydweithio. Ar ôl y cyfnod clo, mae'n cymryd cryn ymdrech i gael pobl i gwrdd wyneb yn wyneb. Sbarc yw'r eithriad. Mewn llai na blwyddyn, mae adeilad sbarc wedi datblygu i fod yn ganolbwynt ar gyfer cyfarfodydd, arddangosfeydd a rhwydweithio.”

“Mae Arloesedd Caerdydd yn cynnig swyddfeydd, labordai a mannau cydweithio trawiadol i fusnesau newydd,

cwmnïau deillio, a busnesau bach a chanolig. Rydym yn sefydliad meithrin yng nghymuned gyfannol sbarc|spark sy'n cynnwys Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARC) a Man Ail-greu.”

Mae rhaglen Concentric yn cefnogi cleifion a chlinigwyr mewn perthynas â'r broses o roi caniatâd digidol trwy ei dyluniad greddfol a hygyrch. Mae’r modd y rheolir ymarferoldeb o bell a’i addasu i bob claf yn golygu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd sy'n cynorthwyo cleifion ar eu taith glinigol.

Rhannu’r stori hon