Profi dŵr gwastraff i ganfod Covid-19 a chlefydau trosglwyddadwy
16 Ionawr 2023
Mae monitro dŵr gwastraff i ganfod lefelau Covid-19 yng Nghymru wedi cael ei ehangu i gynnwys y gwaith o gadw golwg ar lefelau clefydau trosglwyddadwy ac ymwrthedd gwrthficrobaidd yn y dŵr gwastraff a gynhyrcha ysbytai.
Yn y lle cyntaf, datblygodd y rhaglen dan arweiniad Prifysgol Bangor – ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy – y broses o brofi dŵr gwastraff i ganfod COVID-19 a oedd yn rhan o’r broses gynnar o ganfod ton Omicron ledled Cymru.
Mae'r ymchwil hon yn cynnig data hollbwysig ar y graddau y mae’r coronafeirws yn bodoli yn y gymuned a bydd ychwanegu'r safleoedd allweddol hyn a chlefydau trosglwyddadwy ychwanegol at y monitro sydd eisoes ar waith ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol Cymru yn dyfnhau'r ddealltwriaeth a'r wybodaeth leol sydd eu hangen wrth wneud penderfyniadau sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd
Yn ogystal â phrofi am SARS-CoV-2 ac amrywolion eraill, mae'r tîm bellach wedi creu dulliau i brofi am feirysau eraill o ddiddordeb, gan gynnwys polio, norofeirws a bygiau eraill yn y stumog, y ffliw a'r feirws anadlol RSV ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Yn y cam nesaf yn natblygiad y rhaglen bydd partneriaid presennol y rhaglen yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro dŵr gwastraff mewn naw ysbyty yng Nghymru ac ehangu’r gwaith o gadw golwg ar feirysau polio, a hynny yn sgîl canfod feirws polio sy'n deillio o frechlyn yn Llundain yn gynharach eleni.
“Rydyn ni’n gwneud hyn i wneud ein gorau i ddeall yr hyn sy'n digwydd. Mae cynnal profion mewn lleoliadau penodol megis ysbytai yn golygu ein bod yn gallu amddiffyn iechyd pobl ar y rheng flaen yn well yn ogystal â deall pa bathogenau newydd sydd hwyrach yn dod i mewn i'r wlad.
“Mae’n bosibl y bydd cynnal profion mewn cynulliadau torfol megis mewn gŵyl hefyd yn rhoi syniad inni o ba mor bwysig yw'r rhain wrth drosglwyddo clefydau.” Yr Athro David Jones, arweinydd datblygiad y rhaglen dŵr gwastraff, Ysgol y Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor.
Dyma a ddywedodd yr Athro Andy Weightman o Ysgol y Biowyddorau a Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, sy'n cyd-arwain y rhaglen: “Mae ehangu Rhaglen Monitro Dŵr Gwastraff Cymru i fonitro ymwrthedd gwrthficrobaidd yn ddatblygiad newydd a hollbwysig.
“Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn un o'r 10 bygythiad byd-eang mwyaf sy’n wynebu iechyd y ddynoliaeth: mae'n bygwth y gwaith o atal a thrin ystod gynyddol o heintiau a achosir gan ficro-organebau mewn ffordd effeithiol.
“Mae dadansoddi dŵr gwastraff yn rhoi darlun gonest o iechyd y gymuned, ychwanegodd Joe Shuttleworth, Uwch-ymgynghorydd Digidol, Arup. Mae'n ddarn arwyddocaol yn y gwaith o gefnogi iechyd y cyhoedd – os yw'r data a'r wybodaeth arbenigol yn cael eu rhoi i'r bobl gywir yn y ffordd gywir, ac ar yr adeg gywir.
“Y cam pwysig nesaf ar y daith yw edrych y tu hwnt i COVID-19, gan ddefnyddio'r dull hwn i helpu i baratoi Cymru ar gyfer heriau iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.”
Dyma a ddywedodd Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch iawn o weithio gyda'n partneriaid i ehangu’r gallu i gadw golwg ar ddŵr gwastraff ledled Cymru. Bydd cadw golwg arno’n hollbwysig wrth inni fonitro ac ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau sy'n dod i'r golwg ac achosion o glefydau trosglwyddadwy, a bydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd, gan ein helpu i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru.
“Mae cadw golwg ar ddŵr gwastraff wedi bod yn hollbwysig o ran adnabod presenoldeb poliofeirws yn Llundain, a bellach bydd Cymru hefyd yn gallu adnabod y feirws hwn a chlefydau eraill sy'n dod i'r golwg er mwyn gweithredu'n gynnar.”