Ewch i’r prif gynnwys

Galluogi gweision cyhoeddus i lwyddo

16 Ionawr 2023

An image of post-it notes on a table with people pointing to them, showing teamwork.

Yr hyn sydd ei angen i fod yn was cyhoeddus yn yr 21ain ganrif oedd y pwnc trafod mewn sesiwn hysbysu dros frecwast a gynhaliwyd yn Ysgol Busnes Caerdydd ar 13 Rhagfyr 2022.

Cyflwynodd Sarah Lethridge, Dirprwy Ddeon Ymgysylltu Allanol Ysgol Busnes Caerdydd y sesiwn gan groesawu tri siaradwr gwadd o Gyngor Sir Fynwy. Rhannodd y siaradwyr eu syniadau ar sut i alluogi gweision cyhoeddus i fod gystal â phosibl.

Paul Matthews, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy, sydd â 35 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus, ddechreuodd y sesiwn.

Wrth drafod bod yn was cyhoeddus yn ystod cyfnodau o ansicrwydd yn y byd, esboniodd Paul: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig ar hyn o bryd ein bod yn ein hatgoffa ein hunain ei bod yn anrhydedd cael bod yn was cyhoeddus. Mae angen athrylith, ymrwymiad, awydd i'ch brifo eich hun dros eraill. Oherwydd dyna beth rydyn ni'n ei wneud, ni yw'r 'arall' bob tro. Mae'n werth atgoffa'n hunain mai mewn cyfnodau heriol rydyn ni i fod ar ein gorau. Dyna pryd y dylem ni fod yn buddsoddi ynom ni ein hunain. Dyna pryd y dylem ddal ein cariad at chwilfrydedd a'r hyn y gall y byd fod."

Trafododd Paul yr angen am eglurder a phwysleisiodd: "fy marn i yw bod angen i unrhyw sefydliad, unrhyw was cyhoeddus, unrhyw dîm sy'n gobeithio creu dyfodol fod yn glir am eu diben."

Aeth yn ei flaen i drafod recriwtio i'r sector a'r angen am arweinyddiaeth gadarnhaol, greadigol ac egnïol. Ychwanegodd Paul mai ei swydd fel Prif Weithredwr yw creu amgylchedd a gofod sy'n galluogi pobl i ffynnu ac sy'n denu pobl at y sector.

Wrth drafod sut y gallai'r cyngor wella, dywedodd: "mae angen i sefydliadau fel fy un i allu cysylltu'n well gyda'r dinasyddion a'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.  Mae angen iddyn nhw fod yn well wrth gydweithio, wrth fod yn actifyddion, wrth rwydweithio, wrth fod yn alluogwyr."

Trosglwyddodd Paul yr awenau i Lisa Knight-Davies, Pennaeth Her Diwylliant y Sefydliad. Soniodd Lisa am bwysigrwydd sicrhau cydlyniant ac ymateb cyfunol yn y cyngor.

Esboniodd: "fy rhwystredigaethau yw ein bod i gyd yn ceisio gwneud yr un peth, ond ein bod yn ceisio ei wneud yn unigol." Dywedodd: "mae ein gallu cyfunol yn llawer mwy na'n gallu unigol i gyflawni." Soniodd Lisa am chwalu rhwystrau a chyfuno adnoddau.

Y siaradwr olaf oedd Owen Wilce, Rheolwr Rhaglen Infuse, Cyngor Sir Fynwy.

Esboniodd mai rhaglen arloesi ac ymchwil yw Infuse sydd wedi'i chynllunio i feithrin sgiliau a gallu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus arloesol yn y dyfodol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cefnogir Infuse gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae'n gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Y Lab, Nesta, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r deg awdurdod lleol sy'n rhan o'r rhanbarth a arweinir gan Gyngor Sir Fynwy.

Meddai Owen: "Mae infuse yn buddsoddi mewn gweision cyhoeddus. Mae'n creu gofod gwrthdaro lle mae rhai o'r meddyliau mwyaf craff yn y gwasanaeth cyhoeddus yn taro yn erbyn y byd academaidd ac arbenigwyr arloesedd." Dangosodd Owen glip fideo o weision cyhoeddus yn sôn am sut maen nhw wedi elwa o fod ar raglen Infuse.

I gloi'r sesiwn, atebodd y siaradwyr gwestiynau gan y gynulleidfa. Roedd y pynciau'n cynnwys: dylunio sefydliadol, y sector addysg a llwyddiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Gwylio recordiad llawn o'r digwyddiad.

Mae Cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Digwyddiad cysylltiedig ar y gweill: Ymunwch â thîm Infuse am sgwrs wedi'i hwyluso i hyrwyddo ein ffocws ar Was Cyhoeddus yr 21ain Ganrif. Dydd Mawrth 14 Chwefror, 09:30 i 11:30 ar-lein Sicrhewch eich lle yn rhad ac am ddim.

Rhannu’r stori hon