Ewch i’r prif gynnwys

Y Refferendwm a Newidiodd Genedl: Newidiadau seismig yng ngwleidyddiaeth yr Alban yn cael eu hesbonio mewn llyfr newydd

11 Ionawr 2023

Mae llyfr newydd a fydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad cyhoeddus gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd y mis hwn yn rhoi dadansoddiad manwl o Refferendwm Annibyniaeth seismig 2014 a'r siociau a anfonodd yn dilyn hynny, drwy gymdeithas yr Alban.

Gan ddwyn i ystyriaeth ddata o’r Astudiaeth ar Refferendwm yr Alban a’r Astudiaethau ar yr Etholiadau, mae'r llyfr hwn yn rhoi’r dadansoddiad hir-dymor cyntaf o'r modd y bu pleidleiswyr yn ymwneud â'r refferendwm ynghylch annibyniaeth yn 2014 a pha effaith y mae hyn wedi'i chael ar ddewis o ran pleidleisio, ac ar bolareiddio ac ymgysylltu yn yr Alban ers hynny.

Nawr, mae’r Athro Ailsa Henderson (Prifysgol Caeredin) a Dr Jac Larner (Prifysgol Caerdydd), dau o awduron The Referendum that Changed a Nation (Palgrave MacMillan) ynghyd â’r Athro Robert Johns (Prifysgol Essex) a’r Athro Christopher Carman (Prifysgol Glasgow), yn rhoi trosolwg manwl o’r llyfr newydd, gan ddefnyddio data i egluro sut ymatebodd pleidleiswyr i giwiau (cues) gan bleidiau ac arweinwyr, a sut y daeth annibyniaeth yn brif ffawtlin gwleidyddol yn yr Alban.

Mae croeso cynnes i bawb yn y digwyddiad; bydd yn drafodaeth a fydd yn hollbwysig i ddeall gwleidyddiaeth yn yr Alban, a hefyd ei goblygiadau i Gymru a’r DG.

Cynhelir y digwyddiad ar 25 Ionawr, 17:00-19:00, yn Siambr y Cyngor Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd.

Mae cofrestru ar gael yma.

Rhannu’r stori hon