Cylchlythyr Chwarter 4 2022
20 Rhagfyr 2022
Uchafbwyntiau 2022
Wrth edrych yn ôl dros 2022, rydym yn falch o fod wedi cefnogi sbectrwm eang o ymchwil y tu mewn a'r tu allan i Brifysgol Caerdydd, drwy wneud gwaith gwasanaeth a chefnogi defnyddwyr wrth iddynt gyrchu ein cyfleusterau.
Rydym hefyd yn falch o gynnal ein ardystiad ISO 9001 a thrwy gefnogi TeloNostiX, un o gwmnïau deilliannol Prifysgol Caerdydd sy’n ymwneud â diagnosteg in vitro yn y Gwasanaethau Biotechnoleg Canolog, i ennill eu achrediad ISO/IEC 17025:2017.
Bu dychwelyd i hyfforddiant wyneb yn wyneb yn uchafbwynt arall.
Darllenwch ymlaen i gael gwybod mwy am ein gweithgareddau, ein gwasanaethau a'n digwyddiadau sydd ar y gweill!
Diweddariad Rheoli Ansawdd
Drwy gwblhau archwiliad gwyliadwriaeth blynyddol ein cyfleuster yn llwyddiannus ym mis Mawrth 2022, rydym wedi cadw ein hardystiad i ISO 9001. Oherwydd y pandemig, hwn oedd ein harchwiliad wyneb yn wyneb cyntaf ers mis Chwefror 2020.
Mae hyn yn golygu bod ein system rheoli ansawdd yn parhau i ddangos ei gallu i gynnig gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid a rheoliadau’n gyson. Ni yw’r unig Gyfleuster Aml-graidd yn y DU sydd â’r achrediad hwn, sy’n cefnogi cwsmeriaid ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt iddi.
I ategu ein hardystiad ISO 9001:2015, rydym hefyd wedi ein hachredu ar gyfer Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP), sef ein harchwiliad allanol bob dwy flynedd nesaf yn haf 2023.
Dychwelyd i gynnal digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb...
...A dychwelyd i gynadleddau wyneb yn wyneb!
Rydym hefyd wedi mwynhau dychwelyd i gynadleddau wyneb yn wyneb yn 2022. Rydym wedi croesawu’r cyfle i hyrwyddo'r Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog a Phrifysgol Caerdydd wrth ddysgu am dechnolegau a thueddiadau newydd yn ein sector. Roeddem wrth ein bodd bod Sumukh Deshpande, ein Biowybodegydd CBS, wedi derbyn lle wedi'i ariannu'n llawn i fynd i Biohackathon Ewrop ym Mharis. Llongyfarchiadau Sumukh!
Cyfarpar yma yn y Gwasanaethau Biotechnoleg Canolog
Yn ein Cylchlythyr Chwarter 2 eleni gwnaethom eich atgoffa am y technolegau allweddol yn y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog. Hoffem ni eich atgoffa nawr am yr offerynnau llai adnabyddus y gallwch eu defnyddio. Darllenwch ymlaen a chliciwch ar enwau'r offerynnau isod i ddarganfod mwy...
Datgysylltydd Octo gentleMACS™
Mae'r offeryn hwn yn homogeneiddio ac yn datgysylltu hyd at wyth sampl meinwe mewn ffordd gwbl awtomataidd a safonedig.
System Transfection Neon™
Mae'r offeryn hwn yn galluogi cyflwyno asidau niwclëig yn gyflym ac yn effeithlon i bob math o gelloedd mamalaidd, gan gynnwys celloedd cynradd, bôn-gelloedd a rhai sy’n anodd gwneud hyn iddynt.
Sbectroffotomedr Nanodrop
Mae hwn yn sbectroffotomedr UV-gweladwy bach, annibynnol ar gyfer mesur samplau crynodedig iawn ar draws amrywiaeth eang o ddadansoddiadau heb yr angen am wanedu
System Bioanalyzer 2100
Offeryn electrofforesis awtomataidd yw hwn ar gyfer rheoli ansawdd samplau o fiomoleciwlau. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer mesuriadau maint, nifer, cyfanrwydd a phurdeb DNA, RNA, a phroteinau.
Edrych ymlaen at 2023...
Rydyn ni’n parhau i annog cwmnïau allanol ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd i gysylltu â ni am ein gwasanaethau a’n cynghorion ynghylch rheoli ansawdd.
Byddwn yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddi technegol yn 2023. Bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb, a bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau rhithwir. Bydd rhai ohonynt yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim, a bydd modd adfer costau ar gyfer rhai ohonynt, a hynny er mwyn helpu ymchwilwyr cymaint â phosibl. Byddwn yn cyhoeddi manylion digwyddiadau i ddod ar ein gwefan a Twitter, a bydd llawer ohonynt ar gael i ymchwilwyr mewnol ac allanol fel ei gilydd... Dyma rai digwyddiadau isod i roi syniad i chi o’r hyn sydd i ddod!
Gweminarau Cytometreg Llif
Bydd Dr Graham Bottley o InCytometry yn cynnal y gweminarau hyfforddi ar-lein canlynol ar 17, 18 a 19 Ionawr:
* Theori cytometreg llif: Rhan 1
* Theori cytometreg llif: Rhan 2
* FlowJo
Cliciwch ar y dolenni uchod i gael rhagor o fanylion a chofrestru. Codir tâl o £25 yr un ar gyfer y gweminarau hyn, a hynny i dalu'r costau (anfoneb i ddilyn). Cofiwch fod ymgynghoriaeth un-i-un gan InCytometry i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn rhad ac am ddim o hyd. Cysylltwch â Graham yn uniongyrchol am gymorth cytometreg llif.
Seminar Proffilio Gofodol Digidol GeoMx Nanostring
Rydym wrthi’n trefnu seminar wyneb-yn-wyneb gan Nanostring ar dechnoleg Proffilio Gofodol Digidol GeoMx ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y seminar hon yn cael ei chynnal ddydd Iau, 2 Mawrth am 11am yn Adeilad Henry Wellcome ar safle’r Mynydd Bychan.
Cadwch y dyddiad. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law!
Seminar cytometreg llif dimensiwn uchel BD
Rydym hefyd wrthi’n trefnu seminar wyneb-yn-wyneb gan BD ddydd Mawrth, 31 Ionawr yn Adeilad Henry Wellcome ar safle’r Mynydd Bychan. Bydd y seminar cytometreg llif hwn yn ymdrin â cytometreg llif aml-liw, gan gynnwys dyluniad panel, i gyflwyno ein cytomedr llif dimensiwn uchel, Dadansoddwr Celloedd A3 FACSymphony™ BD.
Cadwch y dyddiad. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law!