Un ar bymtheg o ddinasoedd yn yr Unol Daleithiau yn Rhwydwaith Cenedlaethol Atal Trais Caerdydd
11 Ionawr 2023
Mae un ar bymtheg o ddinasoedd ledled UDA yn cefnogi gweithredu model o’r ar gyfer mynd i'r afael â thrais.
Mae'r rhwydwaith o ddinasoedd yn cynnwys arfordir y Dwyrain, arfordir y Gorllewin, rhannau o Ganolbarth y Gorllewin a de-ddwyreiniol y wlad, gan gynnwys dinasoedd o faint canolig fel Albany, Georgia i ddinasoedd mawr fel Las Vegas, Nevada, St Louis, Missouri a Denver, Colorado.
Wedi'i ddyfeisio a'i ddatblygu gan yr Athro Jonathan Shepherd o Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth Prifysgol Caerdydd, mae Model Caerdydd yn gweithio drwy ddefnyddio gwybodaeth unigryw a gasglwyd gan bobl sydd wedi'u hanafu yn yr ysbyty er mwyn atal trais. Mae'r wybodaeth hon yn datgelu defnydd o arfau, trais gangiau a lleoliadau trais fel cuddfannau cyffuriau, ysgolion, parciau, tafarndai a chlybiau nos nad yw'r heddlu yn gwybod amdanynt.
Gyda chefnogaeth y Canolfannau ar gyfer Rheoli ac Atal Clefydau (CDC), mabwysiadwyd y model fel polisi'r Unol Daleithiau yn 2018, ac arweiniodd at greu pecyn cymorth i gynorthwyo'r gwaith o'i gyflwyno.
Mae'r Model yn galluogi dinasoedd i greu byrddau atal trais gan ddod ag awdurdodau’r heddlu, iechyd, a lleol ynghyd â sefydliadau'r trydydd sector i weithredu ar sail y data hyn.
Wedi'i hyrwyddo gan Sefydliad Iechyd y Byd a CDC, mae'r Model eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled y byd, o'r DU a'r Iseldiroedd i Awstralia a De Affrica.
Mae Dr Daniel Wu, Pennaeth Meddygaeth Frys yn Ysbyty Grady yn Atlanta, yn cyd-arwain Rhwydwaith Cenedlaethol Caerdydd yn yr Unol Daleithiau. Dywed fod dull systematig y Model o gasglu data, rhannu gwybodaeth a gweithredu ar y cyd yn lleihau trais.
“Mae Model Atal Trais Caerdydd yn grymuso cymunedau i leihau trais yn eu cymdogaethau eu hunain. Yn greiddiol iddo, mae'n creu cydweithrediadau rhwng gwahanol sectorau a phartneriaid cymunedol na fyddent fel arfer yn bodoli. Mae gan y partneriaethau newydd hyn farn fwy cyflawn a gwybodus o'r trais sy'n plagio eu dinas, ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i weithredu ymyriadau ar lefel gymunedol sy'n cael eu gyrru gan ddata. Fel Meddyg Brys sy'n gofalu am ddioddefwyr trais bob dydd, mae Rhaglen Atal Trais Caerdydd, yn rhoi cyfle i mi wneud y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu'n fwy diogel i'n cleifion fyw.”
Dywedodd Dr Stephen Hargarten, Athro Meddygaeth Frys ac Uwch Gynghorydd Anafiadau a Pholisi y Ganolfan Anafiadau Cynhwysfawr yng Ngholeg Meddygol Wisconsin: “Rydym yn gyffrous i weld Model Caerdydd o Atal Trais yn cael ei roi ar waith yng Ngorllewin Allis a Milwaukee, Wisconsin ac yn cael ei ystyried ar draws yr Unol Daleithiau. Mae mewnblannu Model Caerdydd yn yr Unol Daleithiau yn amserol ac mae ei angen yn fawr. Rwyf wedi ymarfer meddygaeth frys ers bron pedwar degawd a dyma un o'r camau gorau y gallwn eu cymryd i helpu i wneud y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu'n fwy diogel i bawb”
Amlygir llwyddiannau'r model mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd yn 2022, The Cardiff Model for Violence Prevention, sy'n dathlu arloesiadau iechyd cyhoeddus nodedig a ddatblygwyd drwy'r model ers diwedd y 1990au, gan gynnwys defnyddio gwydrau gwydnach mewn bariau, gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng amser real, rhannu gwybodaeth gyda nyrsys ysgol, ac ardaloedd i gerddwyr mewn mannau terfysglyd.
Meddai’r Athro Shepherd: “Ni allai diddordeb cynyddol ym Model Caerdydd a’i roi ar waith yn yr Unol Daleithiau fod yn fwy amserol. Mae trais wedi bod yn bwnc llosg trwy gydol etholiadau canol tymor diweddar yr Unol Daleithiau. Mae'r un ar bymtheg o ddinasoedd yn Rhwydwaith Cenedlaethol Caerdydd yn cydnabod pŵer y Model i dorri trais, torri costau a chynhyrchu atebolrwydd ar y cyd — gan gynnwys atebolrwydd yr heddlu — am atal y broblem gymdeithasol fawr hon”
Mae copi llawn o Fodel Caerdydd ar gyfer Atal Trais ar gael yma.