School of Music welcomes budding musicians from Goresbrook School
9 Ionawr 2023
Daeth 120 o ddisgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Goresbrook, Dagenham, ar ymweliad â’r Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer diwrnod o weithdai a sesiynau recordio.
Mwynhaodd y myfyrwyr berfformiad gan aelodau o Ensemble Jazz yr Ysgol Cerddoriaeth, taith o amgylch Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, gweithdy cyffrous ar offerynnau Tsieineaidd dan arweiniad Kiko Shao, a chymeron nhw ran mewn recordio EP.
Dr Daniel Bickerton, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, a drefnodd y digwyddiad mewn cydweithrediad â chyn-fyfyriwr o’r Ysgol Cerddoriaeth a Phennaeth Cynorthwyol Goresbrook, Alex Davis. Graddiodd Alex gyda gradd BMus yn 2015, a chwblhaodd ei MA mewn Cerddoriaeth yn 2016.
O dan arweiniad Alex, mae Ysgol Goresbrook wedi ffurfio cyfres o ensemblau jazz a luniwyd i gyflwyno pob disgybl i berfformiad offerynnol, ac yn ddiweddar dyfarnwyd grant iddynt gan Sefydliad Andrew Lloyd Webber i gynorthwyo eu perfformiadau cerddoriaeth.
Dywedodd Dr Daniel Bickerton: “Mae bob amser yn fraint cael cyflwyno darpar fyfyrwyr i’r Ysgol Cerddoriaeth a’n diwylliant perfformio bywiog. Mae gennym berthynas arbennig ag Ysgol Goresbrook diolch i’w Pennaeth Cynorthwyol, Alex Davis (cyn-fyfyriwr BMus 2015, MA 2016), ac eleni roeddem yn gallu cyflwyno gweithdai recordio, yn ogystal ag ehangu gorwelion y disgyblion ar yr ymweld â sesiwn ryngweithiol am gerddorfeydd Tsieineaidd dan arweiniad Dr Kiko Shao.
“Mae’r prosiect hwn mor bwysig oherwydd mae’n dangos bod y celfyddydau mynegiannol a pherfformio o werth aruthrol pan ddaw’n fater o raglenni cyfoethogi ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd. Rwyf bob amser mor falch o'r ffordd y mae ein staff a'n myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu cyfleoedd allgymorth deinamig a deniadol. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r Ysgol Cerddoriaeth ac AHSS am ariannu’r ymweliad eleni.”