CBE i’r Is-Ganghellor
3 Ionawr 2023
Dywed Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan bod cael ei anrhydeddu’n Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2023 wedi ““ei synnu ond ei fod yn gwerthfawrogi’r anrhydedd yn fawr”.
Dyfarnwyd yr anrhydedd i’r Athro Riordan i gydnabod ei wasanaeth i addysg uwch yn y DU. Mae’n ymuno â rhestr o aelodau eraill o gymuned y Brifysgol sydd wedi cael cydnabyddiaeth frenhinol am eu cyflawniadau personol eithriadol mewn bywyd cyhoeddus.
“Cefais fy synnu gan y newyddion, ond rwy’n gwerthfawrogi’r anrhydedd yn fawr,” meddai’r Athro Riordan.
“Mae’r dyfarniad hwn yn adlewyrchu cefnogaeth a chydweithrediad rhagorol fy nheulu, cydweithwyr a myfyrwyr trwy gydol y blynyddoedd yr wyf wedi bod yn academydd ac yn Is-Ganghellor ym maes addysg uwch.
“Hoffwn hefyd longyfarch pawb o gymuned y Brifysgol sydd wedi cael anrhydedd gan y Brenin. "Rwyf wrth fy modd bod eu cyfraniadau arwyddocaol wedi'u cydnabod fel hyn. Rydym yn falch iawn o weld eu gwaith a'u hymroddiad yn cael cydnabyddiaeth." ychwanegodd.
Mae’r Athro Riordan wedi treulio bron i ddau ddegawd yn arwain prifysgolion ar y lefelau uchaf yn y DU a Chymru.
Ers iddo gael ei benodi’n Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd am y tro cyntaf yn 2012, mae wedi helpu i atgyfnerthu ei statws fel y brifysgol ymchwil-ddwys fwyaf blaenllaw yng Nghymru. Mae hefyd wedi arwain y Brifysgol drwy heriau’r pandemig byd-eang, gan oruchwylio’n bersonol y gwaith o greu gwasanaeth profi Covid-19 mewnol a soffistigedig i ddiogelu staff a myfyrwyr.
Mae wedi arwain rhaglen sydd wedi buddsoddi’n sylweddol mewn cyfleusterau ymchwil a phrofiad y myfyrwyr. Yn rhan o hynny, fe gyflawnodd ymrwymiad personol i helpu i gynyddu ffyniant cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru drwy greu parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd.
Yn 2014, chwaraeodd ran allweddol mewn trafodaethau i warantu Cyflog Byw i holl weithwyr addysg uwch Cymru. Wrth fabwysiadu’r Cyflog Byw yn 2014, mynnodd y byddai Prifysgol Caerdydd nid yn unig yn talu’r Cyflog Byw i’w gweithwyr, ond y dylai geisio achrediad am hynny. Yn fuan wedi hynny, Prifysgol Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hachredu’n Gyflogwr Cyflog Byw ac mae wedi parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo’r Cyflog Byw yn y sector ac ymhlith cyflogwyr eraill.
Cyn dod i Gaerdydd, bu’n Rhag Is-Ganghellor a Phrofost Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Newcastle rhwng 2005 a 2007, cyn symud i Gaerwysg y flwyddyn honno i fod yn Is-ganghellor Prifysgol Caerwysg.
Mae’r Athro Riordan yn adnabyddus fel hyrwyddwr blaenllaw o’r manteision y gall symudedd a phartneriaethau rhyngwladol eu cynnig i brifysgolion a myfyrwyr fel ei gilydd, a chwaraeodd ran allweddol yng Nghynllun Turing a’r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu (ILEP), sef Taith.
Yn 2012, pan oedd yn Gadeirydd Uned Ryngwladol Addysg Uwch UUK, archwiliodd Adolygiad Riordan yr hyn sy’n atal symudedd allanol yn y DU, ac arweiniodd ei argymhellion at greu Strategaeth y DU ar gyfer Symudedd Allanol.
Mae’n academydd medrus a bu’n addysgu Saesneg fel iaith dramor yn Julius-Maximilians-Universität Würzburg yn yr Almaen. Ers hynny, mae wedi bod yn Ddarlithydd, ac yna’n Uwch-ddarlithydd Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, ac wedi hynny’n Athro Almaeneg ym Mhrifysgol Newcastle.
Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar lenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel, gan gynnwys ysgrifennu a golygu llyfrau ar yr awduron Jurek Becker, Uwe Johnson a Peter Schneider.
Mae’r Athro Riordan wedi bod yn gefnogwr hir dymor i’r gymuned LHDT+, ac yn 2017, penderfynodd fod yn agored am ei gyfeiriadedd rhywiol gyda staff a myfyrwyr yn y Brifysgol, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o’r heriau a wynebir gan y gymuned ddeurywiol.
Mae Rhestr Lawn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2023 i'w gweld yma.