Galw am bapurau yn agor ar gyfer cynhadledd Dyfodol Newyddiaduraeth
21 Rhagfyr 2022
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi Galwad am Bapurau ar gyfer Cynhadledd Dyfodol Newyddiaduraeth 2023.
Mae'r gynhadledd yn gwahodd cyflwyniadau am bob agwedd ar newyddiaduraeth ac anogir cyfraniadau sy'n mynd i'r afael â thema Newyddiaduraeth mewn cyfnod cythryblus: bygythiadau, cyfleoedd ac ymchwil yn arbennig.
Mae thema Newyddiaduraeth mewn cyfnod cythryblus yn cynnwys meysydd ymchwil sy'n archwilio rôl newyddiadurwyr a newyddiaduraeth wrth ymdrin â gwrthdaro gan gynnwys rhyfel a thrais gwleidyddol, yr heriau wrth adrodd ar fudiadau gwleidyddol awdurdodaidd a/neu boblyddol, a newidiadau systemig neu ddirfodol, megis newid yn yr hinsawdd.
Ar ôl cael ei sefydlu yn 2007, mae'r gynhadledd wedi dod yn ddigwyddiad eilflwydd yn y calendr academaidd ac mae ysgolheigion ac ymchwilwyr astudiaethau newyddiaduraeth mwyaf blaenllaw'r byd yn mynd iddi.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, Dr Matt Walsh, “Rwy'n edrych ymlaen at groesawu cynrychiolwyr o'r gymuned ryngwladol o ysgolheigion astudiaethau newyddiaduraeth, ymarferwyr newyddiaduraeth, addysgwyr a hyfforddwyr, gweithredwyr y cyfryngau, undebwyr llafur a rheoleiddwyr cyfryngau sy'n gwneud y gynhadledd hon mor arbennig.”
“Mewn oes o Trump, Putin, Johnson, Bolsonaro a llawer mwy, sut ydyn ni'n rheoli'r bygythiad i safonau newyddiaduraeth ac ymddygiadau normadol, beth yw gwerthoedd newyddiadurol a sut ydym ni’n eu gwarchod wrth ohebu ynghylch poblogaeth/awdurdodaeth?
“Bydd gan nawfed cynulliad y gynhadledd yr heriau hyn a llawer mwy i'w trafod.”
Mae'r prif siaradwyr a gadarnhawyd yn cynnwys yr Athro Jane B Singer o City, Prifysgol Llundain a Dr Valérie Bélair-Gagnon, Athro Cyswllt a Chymrawd Cowles mewn Rheoli'r Cyfryngau, Ysgol Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Torfol Hubbard.
Gwahoddir teitlau a chrynodebau ar gyfer papurau 300 gair erbyn 17 Chwefror 2023. Dylid cyflwyno crynodebau ar-lein drwy wefan y gynhadledd.