“Storm Berffaith”: dadansoddiad newydd yn portreadu Cyllideb Ddrafft anodd i Gymru
15 Rhagfyr 2022
Bydd gwariant y tu allan i'r GIG a llywodraeth leol yn gostwng mewn termau real y flwyddyn nesaf yng nghanol rhagolygon heriol ar gyfer gwariant cyhoeddus, yn ôl dadansoddiad cychwynnol o Gyllideb Ddrafft 2023-24 gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru.
Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd y dadansoddiad fel erthygl y diwrnod ar ôl i Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, amlinellu ei chynlluniau gwariant.
Roedd y tîm DCC wedi egluro o'r blaen y byddai'r chwyddiant uchaf erioed yn dileu cannoedd o filiynau o bunnoedd o werth termau real cyllideb Cymru.
Ond mae canlyniadau Barnett, fel y'u gelwir, a gynhyrchir gan gyhoeddiadau gwariant yn Lloegr, wedi sicrhau setliad llai heriol i'r GIG ac yn enwedig llywodraeth leol; er y bydd gwariant yn debygol o fod yn brin o'r pwysau ariannol a deimlir gan y gwasanaeth iechyd yn dilyn y pandemig. Disgwylir i wariant ar wasanaethau craidd y GIG gynyddu £415 miliwn y flwyddyn nesaf a £615 miliwn erbyn 2024-25.
Yn y cyfamser, roedd llywodraeth leol yn “enillydd cymharol” yn y Gyllideb Ddrafft - mae £227 miliwn ychwanegol wedi'i ychwanegu at y setliad y flwyddyn nesaf (mwy na dyblu'r cynnydd arfaethedig mewn cyllid), ac mae £268 miliwn ychwanegol wedi'i ychwanegu yn 2024-25. Fodd bynnag, nodir, o ystyried bod pwysau cost a galw llywodraeth leol mor uchel, y gellid disgwyl cynnydd yn nhreth y cyngor fis Ebrill nesaf.
Mae'r dadansoddiad hefyd yn nodi bod rhagolygon dyfodol bargeinion cyflog y sector cyhoeddus yn parhau i fod yn aneglur ac yn debygol o fod yn destun straen ar gynlluniau gwario, ac ar gyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus mewn termau real, dros y blynyddoedd nesaf.