Hawliau pleidleisio “rhithiol” sydd gan garcharorion, yn ôl astudiaeth
19 Rhagfyr 2022

Mae carcharorion yn wynebu “dadfreinio gweinyddol” eang rhag pleidleisio, gan olygu mai “rhithiol” yw eu hawl i bleidleisio i bob pwrpas, yn ôl astudiaeth newydd gan academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Lerpwl.
Mae gan garcharorion yr hawl i bleidleisio o dan ddyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn 2005, a ymgorfforwyd gan y DG yn ei chyfraith yn 2017, fel cyfaddawd, ar gyfer categorïau cyfyngedig o garcharorion.
Mae'r erthygl academaidd gan Robert Jones a Gregory Davies, a gyhoeddwyd ym mhrif gyfnodolyn cyfraith y DG, y Modern Law Review, yn darparu'r ymchwiliad empirig manwl cyntaf i bleidleisio gan garcharorion yn y DG.
Ar hyn o bryd, mae gan ddegau o filoedd o garcharorion yr hawl i bleidleisio mewn gwahanol etholiadau yn y DG. Mae hyn yn cynnwys carcharorion heb eu collfarnu, heb eu dedfrydu a charcharorion sifil sy’n gallu pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, carcharorion sy’n cael eu rhyddhau dros dro neu sydd ar gyrffyw aros gartref sy’n cael pleidleisio pan nad ydynt yn y carchar, a phobl â dedfrydau o hyd at flwyddyn yn yr Alban sy’n cael pleidleisio mewn etholiadau datganoledig a lleol.
Ar gyfer yr erthygl, aeth yr ymchwilwyr ati i wneud yr ymgais gyntaf erioed i ganfod i ba raddau y mae'r hawliau pleidleisio hyn yn cael eu harfer. Daeth i’r amlwg iddynt mai cyfran isel iawn o garcharorion cymwys sy’n pleidleisio mewn etholiadau. Mae hyn yn cael ei effeithio gan wallau logistaidd a chyfathrebu wrth gofrestru pleidleiswyr yn ogystal â phryderon gweinyddwyr etholiadol nad yw agweddau ar y canllawiau ar gyfer carcharorion sydd yn y ddalfa neu ar drwydded yn ddigonol i’w cymhwyso’n gyson.
Mae'r erthygl yn canfod bod y dadfreinio ymhlith carcharorion yn y DG yn fwy dwys na’r hyn a dybiwyd yn flaenorol yn ôl pob tebyg, a bod angen ailwerthusiad llawn o'r drefn o alluogi carcharorion i bleidleisio.
Daeth i’r amlwg mewn arolwg o weinyddwyr etholiadol nad oedd 66% erioed wedi cael cais gan garcharor i bleidleisio, ac ymhlith y rhai oedd wedi cael ceisiadau, dim ond rhwng “un a phump” gwaith yr oeddent wedi cael ceisiadau o’r fath yn ystod eu gyrfaoedd cyfan.
Ar ben hynny, mae'r awduron yn dadlau bod hyn yn dangos bod hawliau carcharorion yn ddull gwael o fesur yr amodau y mae carcharorion yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Ystyrir bod mecanweithiau a’r isadeiledd gweinyddol sy'n galluogi hawliau i gael eu cyflwyno yn bwysicach.
Daw’r erthygl i’r casgliad bod “y rhwystrau a wynebir gan garcharorion cymwys yn wahanol erbyn hyn mewn ffyrdd pwysig ar draws awdurdodaethau cyfreithiol a gwleidyddol y DG”. Mae’n dadlau y dylid casglu a chyhoeddi data systematig, ac y gallai hawliau cyfreithiol tybiedig carcharorion fod fwy neu lai’n “ffuglenol” os nad oes ffyrdd o gyflwyno’r hawliau hyn yn bodoli.
Mae’r erthygl lawn ar gael yma.