Athro Emeritws yn rhoi prif anerchiad mewn cynadleddau rhyngwladol
9 Ionawr 2023
Mae’r Athro Emeritws Roger Falconer o’r Ysgol Peirianneg wedi rhoi prif anerchiadau mewn cynadleddau rhyngwladol yng Nghorea a Malaysia.
Yn ddiweddar, rhoddodd yr Athro Emeritws Roger Falconer, cyn Athro ym maes Rheoli Dŵr (1997-2018), brif anerchiad ar ymchwil Prifysgol Caerdydd yn yr ail Symposiwm Aberoedd Rhyngwladol ar 'Adfer Aberoedd Cynaliadwy mewn Cytgord rhwng Bodau Dynol a Natur', a drefnwyd gan K-Water, ac a gynhaliwyd yn Busan, Korea, rhwng 26 a28 Hydref2022 .
Bu hefyd yn rhannu ymchwil gan y Brifysgol yn y Gynhadledd Ryngwladol gyntaf ar Ddŵr a'r Amgylchedd ar gyfer Cynaliadwyedd, a drefnwyd gan Brifysgol Nottingham, Campws Malaysia, ac a gynhaliwyd yn Kuala Lumpur, Malaysia, rhwng 7 a 9 Rhagfyr 2022.
Yn y gynhadledd yng Nghorea, siaradodd Roger am ei waith gyda'r Athro Reza Ahmadian yn y Ganolfan Ymchwil Hydro-amgylcheddol (HRC) ar 'Gynllunio Basnau Afonydd ac Arfordirol yn Gynaliadwy ar gyfer Gwella Ansawdd Dŵr a Chynhyrchu Ynni Llanw'. Rhoddodd ei anerchiad yn y seremoni agoriadol, yn dilyn cyflwyniad gan Lysgennad yr Iseldiroedd, Joanne Doomeward. Amlinellodd Roger y gwaith mae wedi bod yn ei wneud ar y cyd â'r Athro Ahmadian a'i dîm ar: straen a diogelwch dŵr byd-eang, cyflawni'r Nodau Datblygu Cynaliadwy, rheoli dad-haenu ym Mae Caerdydd, modelu prosesau hydro-epidemiolegol o Fasn yr Afon Ribble i Arfordir Fylde, modelu bacteria ysgarthol ym Mae Abertawe, a chynhyrchu ynni llanw ar gyfer Morlyn arfaethedig Gorllewin Gwlad yr Haf.
Wedi’r gynhadledd ymwelodd Roger â phrosiect Gorsaf Ynni Llanw Sihwa. Dyma’r cynllun ynni llanw mwyaf yn y byd ac mae’n ymwneud ag ymchwil sy’n mynd rhagddi ar hyn o bryd yn yr HRC, sydd bellach yn cael ei arwain gan yr Athro Ahmadian.
Yn y gynhadledd yn Kuala Lumpur, rhoddodd Roger ei gyflwyniad yn rhithwir ar y gwaith mae wedi’i gyflawni ar y cyd gyda'r Athro Ahmadian a'r Athro Junqiang Xia o Brifysgol Wuhan, Tsieina, ar lifogydd. Amlinellodd eu datblygiadau ymchwil diweddaraf ar fodelu digwyddiadau llifogydd eithafol, ac yna fe esboniodd ddatblygiadau ymchwil sy’n mynd rhagddynt yn ymwneud ag astudiaethau modelu cyfrifiadurol a labordy ar sefydlogrwydd pobl a cherbydau yn ystod llifogydd.
Ariannwyd yr astudiaeth ymchwil gydweithredol hon gan Gronfa Cymrodoriaethau Uwch Newton yr Academi Beirianneg Frenhinol a Sefydliad Cenedlaethol Gwyddoniaeth Naturiol Tsieina, gyda'r fformwleiddiadau newydd ar gyfer perygl llifogydd i bobl a cherbydau yn cael eu cymhwyso i ddalgylch trefol yn Glasgow. Mae’r datblygiadau ymchwil hyn bellach wedi’u cynnwys mewn sawl adnodd modelu asesu peryglon llifogydd a ddefnyddir yn eang, gyda’r gwaith yn cael ei ymestyn ar hyn o bryd i sicrhau bod llwybrau gwacáu llifogydd yn cael eu hoptimeiddio.