Ewch i’r prif gynnwys

Medal 2022 Syr Hugh Owen i’r Athro David James - y trydydd enillydd yn olynol o Brifysgol Caerdydd

21 Tachwedd 2022

Prof David James

Yr Athro David James yw'r trydydd academydd o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol i dderbyn Medal Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru dros dair blynedd yn olynol.

Mae'r Athro Cymdeithaseg Addysg yn dilyn yr Athro EJ Renold a'r Athro Sally Power yn 2021 a 2020, a enillodd y wobr o fri am ymchwil addysgol eithriadol yng Nghymru, hefyd.

Mae'r drydedd fuddugoliaeth yn olynol yn ychwanegu at hanes Prifysgol Caerdydd ynglŷn â’r wobr ar ôl i’r Athro Chris Taylor ennill y fedal gyntaf yn 2017.

Enillodd yr Athro James y fedal am gynnal ymchwil ragorol a chyfrannu at adnoddau ymchwil yng Nghymru.

Cyfarwyddwr cyntaf a sylfaenydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru oedd e yn ogystal â llywio panel Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 gan asesu safon ymchwil addysgol yn y deyrnas.

Wrth dderbyn y wobr, meddai:

Mae’n bleser ac yn anrhydedd mawr imi dderbyn Medal Syr Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Rwy’n ymwneud ag ymchwil addysgol ers tua 35 mlynedd, ac yng Nghymru y bu’r blynyddoedd mwyaf cyffrous a chynhyrchiol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Yr Athro David James Professor of Sociology of Education

“Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Athro Hywel Thomas a phwyllgor y Gymdeithas Ddysgedig. Yn ail, hoffwn i ddiolch i'm cydweithwyr, yr Athro Tom Hall a'r Athro Alison Bullock, am fy enwebu. Yn drydydd, hoffwn i ddiolch i'r rhai rwy’n cydweithio'n agos â nhw, boed ym maes addysgu neu ymchwil.

“Mae'n dda gwneud y pethau hynny ar y cyd â phobl sy'n deall bod y cynnyrch yn fwy na chyfanswm y cyfraniadau.”

Yn ddiweddar, gorffennodd yr Athro James brosiect ymchwil cydweithredol ym maes llywodraethu colegau, ac mae'n rhan o dîm rhyngwladol sy'n ymchwilio i newidiadau digidol yn y gwaith a'u goblygiadau o ran dysgu gydol oes.

Enillodd yr Athro Renold y fedal yn 2021.

Wrth dderbyn y wobr, meddai, “Rwyf i wrth fy modd bod Medal Syr Hugh Owen wedi’i rhoi i mi eleni.”

Mae’r wobr hon yn golygu cymaint am ei bod yn cydnabod ac yn hybu arwyddocâd ymchwil addysgol arloesol yng Nghymru, sef sut y gall ymchwil greadigol ar y cyd â phobl ifanc, athrawon a gweithwyr ieuenctid lywio polisïau ac arferion addysg am rywioldeb a pherthnasoedd.
Yr Athro EJ Renold Athro Astudiaethau Plentyndod

Dyma ragor am y modd mae gwaith yr Athro Renold wedi gofalu bod barn pobl ifanc yn ganolog i ddeddfau a pholisïau newydd a digwyddiad sydd ar y gweill ynghylch ei waith.

Enillodd yr Athro Power, Cyfarwyddwr Addysg Sefydliad Data ac Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), y wobr yn 2020 am ei hymchwil addysgol eithriadol.

Wrth ennill y wobr, meddai:

Mae'n anrhydedd mawr imi ennill y fedal hon. Rwy’n ffodus iawn trwy elwa ar gymorth cydweithwyr gwych dros y blynyddoedd, ac rwy’n ddiolchgar i’r sefydliadau a’r unigolion sydd wedi noddi fy ymchwil a chymryd rhan ynddi.
Yr Athro Sally Power Professor

Hoffwn i ddiolch i Gymdeithas Ddysgedig Cymru hefyd, am roi llwyfan i hyrwyddo ymchwil addysgol. Mae’n bwysig datblygu cymuned ymchwil fywiog a chynaladwy ar gyfer dyfodol Cymru.”

Mae'r Athro Power yn siaradwr rheolaidd ar y llwyfan ryngwladol ac mae'n aelod o amryw baneli yn y deyrnas hon a thramor. Mae hi wedi helpu i ennill grantiau gwerth dros £10 miliwn ac mae Policy Press wedi cyhoeddi dau lyfr ganddi.

A portrait photo of a Cardiff University academic.

Wrth dderbyn ei wobr yn 2017, meddai’r Athro Taylor:

Mae'n anrhydedd mawr mai enillydd cyntaf Medal Syr Hugh Owen ydw i. Mae'n bwysig cydnabod pwysigrwydd ymchwil yn nhrefn addysg Cymru. Hebddi, allwn ni ddim bod yn hyderus y bydd ein polisïau a’n harferion addysgol yn trafod y materion cywir neu’n arwain at ganlyniadau effeithiol.
Yr Athro Chris Taylor Professor

Mae’r fedal wedi’i henwi er anrhydedd i Syr Hugh Owen a rhoddir i gydnabod cyfraniadau pwysig ym maes ymchwil addysgol neu ymchwil arloesol sydd wedi’i defnyddio ym mholisïau addysgol ac arferion addysgol proffesiynol Cymru.

Cefnogir y wobr gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cyflawni amcan strategol y Gymdeithas, sef cydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn meysydd ysgolheigaidd sy'n gysylltiedig â Chymru.

Rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Rhannu’r stori hon