Ewch i’r prif gynnwys

Chris Stock yn ennill Gwobr Cerddor Cerddorfaol 2022 y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol a Chymdeithas Cerddorfeydd Prydain

19 Rhagfyr 2022

Mae Chris Stock, tiwtor taro yn yr Ysgol Cerddoriaeth a Phrif Offerynnwr Taro Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, wedi ennill Gwobr Cerddor Cerddorfaol 2022 y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol a Chymdeithas Cerddorfeydd Prydain.

Ers 2012, mae'r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol a Chymdeithas Cerddorfeydd Prydain wedi dod ynghyd er mwyn cyflwyno gwobr i gydnabod y cerddorion cerddorfaol rhyfeddol sy'n gweithio ym Mhrydain. Bob blwyddyn, caiff cerddorfeydd enwebu un o'u cerddorion ar gyfer y wobr. Panel o arbenigwyr sy’n ystyried yr holl enwebiadau.

Derbyniodd Chris y wobr gan Brif Weithredwr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol, James Murphy, a ddywedodd: “Mae Chris wedi bod yn unigolyn blaenllaw ac yn hoelen wyth yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ers rhai degawdau. Mae'n arweinydd adran arbennig sy’n ymroddedig i gymdeithas ac addysg. Mae’n rhoi o’i amser, yn addysgu sgiliau ac yn ennyn brwdfrydedd er mwyn ysbrydoli pobl eraill.

“Ac nid dim ond yma yng Nghymru. Yn 2015, yn rhan o daith i Dde America, bu i’r gerddorfa gwrdd â channoedd o blant Patagonaidd ac ymgysylltu â nhw mewn gweithdai cerddorol. O weld faint y cawsant eu hysbrydoli gan gês bach o offerynnau taro o Gymru, penderfynodd Chris a’i gyd-chwaraewyr wneud popeth o fewn eu gallu i ddod o hyd i offerynnau heb eu defnyddio adref a’u hanfon at blant De America. Arweiniodd hyn at greu Prosiect Offerynnau Patagonia. Hyd heddiw, mae’r prosiect wedi anfon gwerth mwy na £60,000 o offerynnau cerddorol i’r rhanbarth.

"Mae'r ymdrech gyfan hon yn dangos, mewn ffordd mor bwerus, y pethau gwych a all ddigwydd pan fydd y DU yn allforio'i thrysorau diwylliannol – fel y gerddorfa hon – ledled y byd, ac yn fwy na dim, fod cerddorion cerddorfaol yn rym rhyfeddol er daioni yn ein bywydau.”

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Chris: "Dyma'r unig wobr i gerddor cerddorfaol ledled y DU, ac mae'n adlewyrchu'r gwaith a wnaed ganddo mewn blwyddyn benodol, y tu hwnt i ofynion arferol ei swydd. Ar y sail hon, braint o’r mwyaf yw cael fy nghydnabod gan y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol a Chymdeithas Cerddorfeydd Prydain am waith yr elusen a ffurfiais i gefnogi ysgolion a grwpiau ieuenctid cerddorol yn Chubut, Patagonia, yn dilyn taith Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o Dde America yn 2015 i nodi 150 mlynedd ym Mhatagonia. Mae'n annibynnol ar y BBC.

“Mae fy ngwobr yn gysylltiedig rywfaint â gwaith yr elusen drwy gydol 2021, ond mae’n cael ei rhoi’n arbennig ar gyfer y rhoddion a’r gwaith i gydlynu ymateb cyflym gan Gymru ac ar y cyd â’r grwpiau eraill rydym yn eu cefnogi yn Chubut yn dilyn y tanau coedwig dinistriol yn nhref El Hoyo, Chubut. O ganlyniad i’r tanau coedwig hyn, cafodd cyfran fawr o offerynnau cerddorfa’r plant yn y dref ei dinistrio. Yn dilyn cymryd camau’n gyflym, addawyd cyllid ac offerynnau newydd o fewn tair wythnos.

“I mi’n bersonol, mae’r wobr yn cynrychioli cyfle gwych i ledaenu’r gair am ein gwaith yn rhan o Brosiect Offerynnau Patagonia. Y gobaith yw y bydd hynny’n arwain at ragor o roddion a chymorth ledled Cymru a’r DU.”

Rhannu’r stori hon