Rhaglen GIRO-ZERO yn trosglwyddo gwybodaeth arbenigol ar ddatgarboneiddio logisteg
15 Rhagfyr 2022
Yn ddiweddar cynhaliodd prosiect GIRO-ZERO raglen wythnos o hyd a ddaeth â chynrychiolwyr diwydiant ac arbenigwyr o’r DU a Colombia ynghyd.
Nod y prosiect yw cyflymu gwaith adnewyddu a thechnolegau cerbydau i leihau'r milltiroedd a deithir, y tanwydd a ddefnyddir, a'r CO2e a allyrrir gan gerbydau'n gweithredu yn y sector cludo nwyddau ar ffyrdd Colombia.
Arweinir GIRO-ZERO gan yr Universidad de los Andes, a ariennir gan raglen PACT y DU, Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) y DU ac mae'n gydweithrediad rhyngwladol â Phrifysgol Caerdydd.
Ym mis Hydref 2022, cynhaliwyd Rhaglen Meithrin Gallu Ryngwladol gyntaf GIRO-ZERO yn Llundain a Chaerdydd. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys buddiolwyr y prosiect, sefydliadau, a chynrychiolwyr diwydiant o Colombia. Yn ystod yr ymweliad, buont yn cyfarfod ag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, Universidad de los Andes a chynrychiolwyr o lywodraeth a diwydiant y DU.
Roedd y rhaglen yn cynnwys trafodaeth mewn grwpiau lle cyfarfu’r rhai a oedd yn bresennol â thîm rheoli PACT y DU yn Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) y DU. Roedd hefyd yn cynnwys ymweliadau i gwmnïau Sainsbury's ac OCADO, diwrnod hyfforddi, a gweithdy a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd.
Amlygodd yr Athro Vasco Sanchez Rodrigues, Prif Arbenigwr GIRO-ZERO a Phrif Ymchwilydd y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd:
Daeth yr ymweliad i ben gyda gweithdy ar ddatgarboneiddio cludo nwyddau ar y ffyrdd. Roedd yn cynnwys prif gyflwyniadau gan Ricardo plc, Llywodraeth Cymru, Adran Drafnidiaeth y DU, a thrafodaeth banel ar y map ffordd datgarboneiddio cynnar y mae’r ddwy wlad yn dechrau.
Dywedodd yr Athro Emrah Demir, Prif Arbenigwr GIRO-ZERO, a arweiniodd y gweithdy:
Cyflawnodd yr ymweliad dair carreg filltir:
- Trosglwyddwyd gwybodaeth arbenigol ar ddatgarboneiddio cludo nwyddau ar y ffyrdd i fuddiolwyr a phartneriaid strategol y prosiect.
- Cododd tîm y prosiect ymwybyddiaeth am gynhyrchion a chyfarpar GIRO-ZIRO.
- Atgyfnerthodd GIRO-ZERO y berthynas â chynrychiolwyr o lywodraeth a diwydiant Colombia.
Dywedodd yr Athro Gordon Wilmsmeier, Arweinydd Prosiect GIRO-ZERO: “Fe wnaeth trafodaethau ysgogol a chyfnewid gwybodaeth ymhlith cynrychiolwyr o’r DU a Colombia wella dealltwriaeth o’r gweledigaethau a’r llwybrau gweithredu tuag at allyriadau sero. Roedd yn arbennig o ddiddorol gweld sut y gwnaeth yr ymweliad helpu i fyfyrio ar y cynnydd a chyflwr y sector yng Ngholombia, i gydnabod bod mentrau a syniadau gwych yn y wlad y dylid eu troi’n gamau gweithredu.”
Cydlynwyd y digwyddiad gan gydweithwyr o Ysgol Busnes Caerdydd ac Universidad de los Andes – Colombia. Roedd yn ymweliad llwyddiannus â’r DU. Hoffai GIRO-ZERO roi diolch arbennig i bwyllgor trefnu'r ymweliad:
Yr Athro Emrah Demir, Dr Wessam Abouarghoub, Andrés Rey, Cristiam Gil, Alejandra Laverde, Ana Lucía Ricaurte, Luisa Spaggiari, Camila Faride Cubillos, Helen Whitfield, Angharad Kearse a'r Athro Vasco Sanchez Rodrigues.
Bydd GIRO-ZERO yn trefnu digwyddiadau yn y dyfodol i gynhyrchu a throsglwyddo gwybodaeth am ddatgarboneiddio logisteg. Mae'r rhaglen ddiweddar wedi bod yn sail ar gyfer cydweithredu rhwng y llywodraeth, diwydiant ac ymchwilwyr cymhwysol o Colombia a'r DU.