Technoleg Caerdydd yn cael cryn sylw yng Ngwobrau SETsquared
13 Rhagfyr 2022
Helpodd Prifysgol Caerdydd SETSquared i ddathlu ei ben-blwydd yn 20 oed mewn steil gyda sioe arddangos blynyddol ar gyfer buddsoddi, oedd yn fwy o faint nag erioed o’r blaen, a dathliad gwobrau, a oedd yn cydnabod cwmnïau sy'n aelodau, ac sy’n cael effaith gymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd sylweddol.
Daeth dros 200 o fuddsoddwyr ac arianwyr ynghyd yn Church House, San Steffan, i weld y cnwd diweddaraf o fusnesau newydd, cwmnïau deillio a busnesau sy’n tyfu a gefnogir gan SETsquared; yn eu plith mae MeOmics Precision Medicine, cwmni a gefnogir gan SETSquared yng Nghaerdydd.
Roedd y sioe arddangos yn fwy ac yn well nag erioed, gyda dwbl nifer y cwmnïau'n cyflwyno a thrafodaeth banel amser cinio a oedd yn ystyried y dirwedd ar gyfer arloesi a buddsoddi dros yr 20 mlynedd nesaf.
Dywedodd Alasdair Pettigrew, Prif Swyddog Gweithredol, MeOmics: “Mae heddiw wedi bod yn hollol wych. Rwyf eisoes wedi siarad â phedwar buddsoddwr, ac mae un arall yn dod i gwrdd â mi yn nes ymlaen. Pwrpas heddiw yn syml yw cael cynigion i fuddsoddwyr, ac fe allwch chi deimlo'r egni a'r brwdfrydedd gyda'r holl gwmnïau yma heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd yr egni hwnnw’n cael ei basio mlaen i’r buddsoddwyr oherwydd, mae a wnelo hyn â sicrhau'r cyfalaf sydd ei angen arnom i ddod â'r datblygiadau arloesol gwych hyn i'r farchnad.”
“O ran MeOmics, byddwn yn parhau i gasglu ein data ac adeiladu ein hasedau gyda'r £3 miliwn yr ydym yn gofyn amdano a byddwn hefyd yn parhau i berffeithio ein cynnyrch ar gyfer y farchnad. Rydym yn disgwyl sicrhau ein refeniw cyntaf yn ystod y misoedd nesaf”
Dywedodd Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Gweithrediadau Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae'r arddangosfa ar gyfer buddsoddi yn gyfle i dalu sylw i fusnesau sydd wedi tyfu o gryfderau rhanbarthol, i fod yn gymuned ehangach o lawer sy’n buddsoddi mewn busnesau. Cwta flwyddyn sydd ers i Brifysgol Caerdydd ddechrau’i hymwneud â SETSquared ac mae cysylltu ein cwmnïau newydd a chwmnïau deillio â'r gynulleidfa werthfawr sydd yma heddiw yn creu rhagolygon cyffrous ar gyfer y dyfodol.”
Derbyniodd chwe busnes sydd ar hyn o bryd yn cael eu cefnogi neu sydd wedi cael eu cefnogi gan SETSquared Wobrau Effaith i gydnabod eu heffaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, yr economi a chymdeithas. Enillydd Caerdydd oedd MOLE.
Mae MOLE yn helpu i ysgogi dyfodol trydan-yn-llwyr trwy ddatblygu dyfais gwefru cerbydau cwbl ymreolaethol, robotig a fydd yn galluogi cerbydau trydan i wefru heb weirio trafferthus. Mae defnyddwyr yn syml yn parcio dros y “MOLE” i gysylltu'n annibynnol â'r gwefrydd.
Mae'r cwmni'n gweithio gyda gweithredwyr fflydoedd, masnachol, haen-uchaf i gyflymu'r broses o drosglwyddo i symudedd trydanol - nid yn unig y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ansawdd aer - ond bydd hefyd yn helpu'r DU i gyflawni ei huchelgeisiau sero net.
Roedd yr Arddangosfa a'r Gwobrau yn digwydd ar yr un pryd â lansiad Adroddiad Effaith annibynnol Warwick Economic and Development, sy'n amcangyfrif mai cyfanswm cyfraniad Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) busnesau sydd wedi’u cefnogi gan SETSquared rhwng 2002 a 2022 yw £15.7 biliwn, a bod 15,600 o swyddi wedi’u creu.
Gallwch weld yr Adroddiad Effaith yma: https://www.setsquared.co.uk/download-a-copy-of-the-impact-report/