Ewch i’r prif gynnwys

Academi Genedlaethol Cymru yn cydnabod gwaith hyrwyddwr cyfreithiol ffeministaidd

12 Rhagfyr 2022

Dr Sharon Thompson yn derbyn Gwobr Dillwyn yn Seremoni Derbyn Medal Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Credyd y llun: Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dr Sharon Thompson yn derbyn Gwobr Dillwyn yn Seremoni Derbyn Medal Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Credyd y llun: Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a'r gwyddorau wedi cydnabod gwaith academydd o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Dyfarnwyd Medal Dillwyn i Dr Sharon Thompson fis Tachwedd eleni yn Seremoni Dyfarnu Medal Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae'r Gymdeithas yn dod ag arbenigwyr o bob maes academaidd at ei gilydd ac yn defnyddio gwybodaeth gyfunol i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli’r broses o ddysgu a rhoi cyngor annibynnol ar bolisïau.

Cyflwynir Medal Dillwyn i ymchwilwyr rhagorol yng Nghymru ar ddechrau eu gyrfa ac eleni Dr Thompson oedd enillydd y fedal yn y Dyniaethau a'r Celfyddydau Creadigol.

Denodd Dr Thompson sylw’r gymdeithas am ei gwaith ar gyfraith teulu, theori gyfreithiol ffeministaidd a hanes cyfreithiol. Ymunodd â’r ysgol yn 2015, ar ôl bod yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Keele ac yn Gymrawd Gwadd yn 2014 ym Mhrifysgol Dinas Hong Kong. Gan iddi ddod yn adnabyddus yn rhyngwladol, mae gan Dr Thompson enw hynod o dda am ei gwaith ar gytundebau cyn priodi ond mae hi hefyd yn ymchwilio i faes ysgariad, eiddo teuluol a hanes cyfreithiol canol yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio'n benodol ar safbwyntiau ffeministaidd.

Yn fwyaf diweddar cyhoeddodd Dr Thompson lyfr gan lansio podlediad o’r un enw, sef Quiet Revolutionaries, am Gymdeithas y Merched Priod, grŵp anghofiedig o  arloeswyr ffeministaidd o ganol yr ugeinfed ganrif a geisiodd newid hawliau cyfreithiol gwragedd tŷ. Dr Thompson oedd cynghorydd cyfreithiol Pobol y Cwm , y gyfres ar S4C, ac yn fwyaf diweddar ymddangosodd ar Woman's Hour ar BBC Radio 4.

Wrth siarad am ei gwobr, dyma a ddywedodd Dr Thompson, “Anrhydedd anhygoel ac annisgwyl yw derbyn Medal Dillwyn. Rwy wrth fy modd bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cydnabod fy ngwaith mewn ffordd mor hael. Rwy hefyd yn hynod ddiolchgar i fy nghydweithwyr yng Nghaerdydd, yr Athro Russell Sandberg, Ambreena Manji a Norman Doe am fy enwebu, ac i fy nghydweithwyr a’r bobl sy’n gweithio mewn partneriaeth â mi am eu holl gymorth a’u harweiniad dros y blynyddoedd.

Drwy gydol fy ngyrfa, mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar herio rhagdybiaethau ac ystrydebau am fenywod a’r gyfraith, boed yn ddatgelu deinameg grym mewn cytundebau cyn priodi, cwestiynu ystyr a goblygiadau’r ‘cloddiwr aur’ neu edrych o’r newydd ar hanes cyfraith teulu drwy lens ffeministaidd i ddatgelu safbwyntiau newydd ar sut mae'r gyfraith yn cael ei diwygio.

Mae derbyn y fedal hon yn golygu llawer iawn imi gan fy mod yn credu ei bod yn bwysicach nag erioed i ddatgelu’r dimensiynau grym ar sail rhyw sydd wrth wraidd perthynas mewn teulu. Gan fod cydraddoldeb a chyrchu cyfiawnder yn mynd yn fwyfwy anodd i rannau helaeth o’r gymdeithas, nawr yw’r amser i feddwl am atebion newydd ym maes diwygio’r gyfraith.”

Dr Thompson yw arweinydd modiwl Cyfraith Teulu a chyd-arweinydd modiwl Hanes Cyfreithiol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Rhannu’r stori hon