Chwaraeon prifysgol a chymunedol yn cychwyn ar safle wedi'i ailddatblygu yn Nwyrain Caerdydd
9 Rhagfyr 2022
Bydd gan dimau chwaraeon myfyrwyr a chymunedol fynediad at rai o'r cyfleusterau gorau yn y DU yn dilyn ailddatblygu Caeau Chwaraeon Llanrhymni Prifysgol Caerdydd.
Mae’r cyfleusterau hyfforddi a chwarae o’r radd flaenaf wedi’u darparu mewn partneriaeth â Thŷ Chwaraeon Dinas Caerdydd (CCHOS), Cyngor Caerdydd a Chwaraeon Cymru.
Gyda'i gilydd mae'r partneriaid wedi datblygu pedwar cae pwrpasol, pob tywydd â llifoleuadau i gyd-fynd â'r cyfleusterau presennol ar y safle. Bydd cyfleusterau hyfforddi ac academi newydd CCHOS hefyd yn dilyn y flwyddyn nesaf.
Dyma a ddywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: "Rwy’n eiriolwr enfawr dros chwaraeon myfyrwyr ac yn cydnabod cymaint o effaith y gall ei gael ar brofiad ein myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Felly, mae'n anhygoel gweld gemau ar y gweill unwaith eto ar ein safle yn Llanrhymni ar ôl yr uwchraddio sylweddol hwn a wnaed ar y cyd â'n partneriaid, Tŷ Chwaraeon Dinas Caerdydd, Cyngor Caerdydd a Chwaraeon Cymru."
Cartref newydd timau rygbi, pêl-droed, hoci, ffrisbi eithafol, lacrosse a phêl-droed Americanaidd yn cynnwys cyfleuster pêl-droed Haen-2 3G newydd sbon, cae rygbi safonol 3G IRB dan lifoleuadau, cae rygbi/pêl-droed safonol IRB/FIFA a chae hoci synthetig newydd.
Dywedodd Ffion Hewlett, myfyriwr MSc Rheoli Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy a Llywydd Rygbi Merched ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r datblygiad newydd hwn yn ased gwych i Chwaraeon Prifysgol Caerdydd! Mae'r cyflymder y mae'n caniatáu inni chwarae ein gêm arni a'r ffaith y gellir ei ddefnyddio ym mhob tywydd yn wych ac yn apelgar."
Gwyliwch ffilm drôn o'r cyfleusterau newydd ar Gaeau Chwaraeon Llanrhymni Prifysgol Caerdydd
Ychwanegodd Olivia Evans, Llywydd VP Chwaraeon ac Undeb Athletau Prifysgol Caerdydd: "Rwy'n credu fy mod yn siarad dros ein holl aelodau pan ddywedaf fod y cyfleusterau hyn yn ychwanegiad i'w groesawu at brofiad chwaraeon Prifysgol Caerdydd.
"Bydd gallu hyfforddi a chwarae ar gyfleusterau fel y rhain yn helpu i hwyluso a sbarduno cyflawniadau chwaraeon ein holl fyfyrwyr.
"Ond mae chwaraeon yn ymwneud â chymaint mwy na llwyddiant."
Bydd y safle hefyd yn gwasanaethu Ymddiriedolaeth Chwaraeon Cymunedol Llanrhymni sydd newydd ei sefydlu, sy'n ceisio datblygu a hyrwyddo darpariaeth chwaraeon i bobl iau, ieuenctid ac oedolion fel y gall clybiau lleol barhau i ffynnu.
Bydd y cyfleusterau'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ethos yr Ymddiriedolaeth o chwaraeon i bawb, gydag thimau clwb yn cadw mynediad at y caeau pob tywydd a glaswellt ar gyfer gemau cymunedol gwrywaidd a benywaidd.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Jones, Cynghorydd Sir Llanrhymni: "Mae treftadaeth chwaraeon falch yn Llanrhymni a diolch i'r buddsoddiad yn y cyfleusterau chwaraeon trawiadol hyn, mae gennym ddyfodol chwaraeon addawol o'n blaenau. O blant lleol, i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr elît Dinas Caerdydd, bydd y cyfleusterau newydd hyn yn cael effaith ddofn ar chwaraeon Cymru.
"Mae ein cymuned yn ddiolchgar am y gwaith partneriaeth gan Brifysgol Caerdydd, Cyngor Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, a fydd yn rhoi Llanrhymni ar y map chwaraeon i'r byd i gyd ei weld."
Bydd academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd hefyd yn lleoli’n barhaol ar y safle yng Ngwanwyn 2023 pan fydd gwaith wedi’i gwblhau ar eu cyfleusterau newydd.
Bydd eu safle 16 erw yn defnyddio hen adeilad Dr Who i fod yn gartref i floc llety deulawr gyda swyddfeydd, ystafelloedd dosbarth, darlithfeydd, ffreutur, cyfleusterau newid a chae 3G dan do, yn ogystal â chaeau synthetig a glaswelltir allanol.
Dywedodd Steve Borley, Cyfarwyddwr CCHOS: "Bu'n bleser gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a Chyngor Caerdydd sydd wedi cofleidio ein gweledigaeth i greu campws chwaraeon yn Nwyrain Caerdydd.
"Mae'r safle newydd yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a lle gall clybiau Llanrhymni ei alw'n gartref ochr yn ochr â chyfadeilad newydd Academi Dinas Caerdydd."