Ewch i’r prif gynnwys

Mae seryddwyr yn parhau i ddatrys dirgelion sêr wedi marwolaeth mewn delweddau newydd o delesgop gofod

8 Rhagfyr 2022

Dangosir dwy olygfa o'r un gwrthrych, Nifwl y Cylch Deheuol, ochr yn ochr. Mae'r ddau yn cynnwys cefndiroedd du gyda sêr llachar bach a galaethau pell.
Dau lun o nifwl y Cylch Deheuol a dynnodd Telesgop James Webb rhwng 3 a 12 Mehefin 2022 gan ddefnyddio ei Gamera Is-goch Agos (Chwith) a'i Offeryn Is-goch Canolig (Dde). Cydnabyddwch yr Weinyddiaeth Awyrennaeth a Gofod Genedlaethol (NASA), Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA), Asiantaeth Ofod Canada (CSA) a Sefydliad Gwyddoniaeth Telesgop Gofod (STSCI).

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr yn honni bod ganddynt y dystiolaeth gliriaf eto o'r digwyddiadau sy'n dilyn marwolaeth seren.

Mae dadansoddiad o rai o'r delweddau seryddol cyntaf a dynnodd JWST wedi helpu i adnabod strwythurau heb eu gweld o'r blaen o fewn tirwedd serol oddeutu 2,500 o flynyddoedd golau i ffwrdd o'r Ddaear.

Gelwir y cymylau hyn o glymau, ffilament a nwy sy'n cael eu chwythu allan gan sêr sy'n marw yn nifylau (nebulae) planedol.

Hyd yn hyn, roedd seryddwyr yn cael anhawster deall sut y gallai sêr, sydd bron yn berffaith sfferig, greu nifylau cymhleth â chlystyrau, jetiau, cregyn a chylchoedd ar ddiwedd eu hoes.

Ond yn yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nature Astronomy, defnyddiodd y tîm ddata o delesgop newydd NASA ynghyd â data presennol o'r gofod a chyfleusterau ar y ddaear i ddatgelu system o hyd at bum seren wrth wraidd nifwl nad ydym yn gwybod llawer amdano.

Telesgop gofod JWST
Mae JWST yn rhaglen ryngwladol dan arweiniad y Weinyddiaeth Awyrennaeth a Gofod Genedlaethol (NASA) gyda'i phartneriaid, Asiantaeth Ofod Ewrop ac Asiantaeth Ofod Canada.

Dywedodd Dr Mikako Matsuura, Darllenydd yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, a weithiodd yn helaeth gyda'r tîm rhyngwladol: "Pan welon ni’r delweddau hyn am y tro cyntaf, sylweddolon ni fod llwch wrth wraidd y nifwl a oedd yn syndod oherwydd roeddem yn deall o'r blaen bod hwn yn symud allan ac i ffwrdd o'r seren ganolog hynod boeth."

Tynnwyd y delweddau’n rhan o raglen arsylwadau rhyddhau cynnar JWST. Defnyddiodd y telesgop ei Gamera Is-goch Agos a'i Offeryn Is-goch Canolig i greu'r delweddau o nifwl planedol NGC 3132, a'i lysenw yw nifwl y Cylch Deheuol.

Credwyd yn flaenorol ei fod yn eliptig ei siâp ond datgelodd tonfeddi is-goch JWST ddisg llychlyd o fewn y Cylch Deheuol a ffurfiwyd o wyntoedd a nwyon wedi'u dal o amgylch y seren sy'n marw a'i seren gydymaith.

"Mae golwg is-goch pwerus JWST wedi dod â phrif seren y nifwl i’r fei yn llawn gan newid tirwedd y Cylch Deheuol yn gyfan gwbl. Mae hyn yn golygu bod yr all-lif sfferig llyfn yr oeddem yn ei ddisgwyl yn cael ei amharu a'i ddisodli gan batrymau anghymesur wrth i'r sêr orbitio ei gilydd gan ddal y llwch yn y grymoedd disgyrchol rhyngddynt."

Dr Mikako Matsuura STFC Ernest Rutherford Fellow

Gwnaeth y tîm, dan arweiniad yr Athro Orsola De Marco o Brifysgol Macquarie yn Sydney ac sy'n cynnwys bron i 70 o wyddonwyr o brifysgolion ledled y DU, Ewrop, Asia, Awstralia, De America, Mecsico, UDA a Chanada, ymgynnull i ddadansoddi'r delweddau, a oedd ymhlith arsylwadau cyntaf JWST ac a ryddhawyd gan NASA ym mis Gorffennaf 2022.

Maen nhw'n dweud bod y delweddau hefyd yn datgelu, am y tro cyntaf, y moleciwlau sydd y tu allan i'r nifwl hwn - cliw i ddeall sut mae'r blociau adeiladu sy'n angenrheidiol ar gyfer bywyd yn bwydo i'r bydysawd.

Ychwanegodd y cyd-awdur Dr Roger Wesson, hefyd o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Yn hanesyddol, roedd yn ymddangos bod nifylau planedol yn wrthrychau eithaf syml - cregyn nwy sfferig yn fras, gydag un seren yn eu canol. Dangosodd Telesgop Gofod Hubble eu bod yn llawer mwy cymhleth na hynny, gan sbarduno dadl hir am sut y cânt eu ffurfio a'u siapio.

"Mae'r delweddau JWST hyn yn datgelu strwythurau mwy cymhleth ond maent hefyd yn cynnig rhai atebion, gan ddangos bod system sêr gydag o leiaf bedwar aelod yng nghanol nifwl y Cylch Deheuol, gan siapio'r deunydd a daflwyd gan un o'r sêr ar ddiwedd ei oes."

"Mae canlyniadau mor anhygoel o arsylwadau cynharaf JWST yn arddangosiad gwych o'i alluoedd, a bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyffrous iawn wrth i fwy o arsylwadau gael eu cymryd, gan ganiatáu cyfleoedd pellach i ni archwilio'r strwythurau dirgel hyn, tarddiad ein bydysawd a'n lle ynddo."

Dr Roger Wesson Research Associate

Wedi'i lansio ym mis Rhagfyr 2021, mae JWST yn rhaglen ryngwladol dan arweiniad y Weinyddiaeth Awyrennaeth a Gofod Genedlaethol (NASA) gyda'i phartneriaid, Asiantaeth Ofod Ewrop ac Asiantaeth Ofod Canada.

Hwn yw prif arsyllfa'r degawd nesaf a bydd JWST yn galluogi seryddwyr ledled y byd i astudio pob cam yn hanes ein Bydysawd, yn amrywio o'r tywynnau goleuol cyntaf ar ôl y Glec Fawr, i ffurfio systemau serol a phlanedol sy'n gallu cynnal bywyd ar blanedau fel y Ddaear, i esblygiad Cysawd yr Haul ein hunain.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.