Prifysgol y Plant yn cael ei chyflwyno'n ehangach yng Nghaerdydd
8 Rhagfyr 2022
Mae cynllun peilot llwyddiannus a gynlluniwyd i annog a datblygu cariad at ddysgu yn cael ei ehangu i ysgolion cynradd ledled Caerdydd.
Mae Prifysgol Caerdydd a Chyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol y Plant, elusen yn y DU sy'n gweithio gydag awdurdodau addysg lleol, ysgolion a phartneriaid cymunedol i gyflwyno ystod o sesiynau addysgol i blant.
Bydd y cynllun yn golygu bod gan fyfyrwyr fynediad at dros 90 o wahanol weithgareddau’n ymwneud â chelf a cherddoriaeth, gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn ogystal â chyrsiau dylunio diwylliannol a graffeg, a phob un yn cyfrannu tuag at 'Basbort i fyd Dysgu'.
Bu dros 400 o blant yn cymryd rhan mewn cynllun peilot diweddar, gan gynnwys pobl ifanc o Ysgol Gynradd Eglwys Santes Fair y Forwyn Cymru yn Butetown, Ysgol Gynradd Sain Ffagan, Ysgol Gynradd Peter Lea yn y Tyllgoed ac Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái.
Yn seiliedig ar adborth cadarnhaol gan yr ysgolion fu'n cymryd rhan, mae Cyngor Caerdydd bellach wedi ymrwymo cyllid ychwanegol i ehangu'r prosiect er mwyn sicrhau bod plant o bob cefndir yn gallu mwynhau'r cyfleusterau o safon fyd-eang sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.
Bydd Prifysgol Caerdydd, gyda chefnogaeth Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru (RWIF), hefyd yn cyfrannu ystod eang o adnoddau dysgu dwyieithog i’w rhoi ar blatfform ar-lein Prifysgol y Plant.
Ochr yn ochr â modiwlau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), mae Ysgol Busnes Caerdydd hefyd yn datblygu rhaglen sy'n addysgu plant ynghylch cyllid sylfaenol; gellid rhannu’r rhaglen hon a’i defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: “Rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan Brifysgol Caerdydd o ran cefnogi ac ysbrydoli pobl ifanc i ehangu eu dysgu a chyflawni eu gwir botensial.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Mae hon yn garreg filltir gyffrous o ran cyflwyno ‘Pasbort i’r Ddinas’ ac mae’r cytundeb rhwng y Cyngor a Phrifysgol Caerdydd yn tanlinellu ein hymrwymiad i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n cael eu magu yng Nghaerdydd yn gallu profi’r pethau gwych sydd gan y ddinas hon i'w cynnig, eu mwynhau a gwneud y mwyaf ohonynt.
“Trwy weithio mewn partneriaeth i wneud y defnydd gorau o adnoddau’r ddinas a’r cyfleoedd gwych sydd ar gael ynddi, rydym yn gallu ymgysylltu â phlant a phobl ifanc trwy ystod hynod amrywiol o ddarpariaeth dysgu a lles, rhai pethau na fuasent, o bosib, yn gallu cael mynediad atynt fel arfer.”
Wrth siarad am y cynllun peilot a ddaeth i ben yn gynharach eleni, dywedodd Nicki Prichard, pennaeth Ysgol Gynradd Eglwys Santes Fair y Forwyn yn Butetown, Cymru: “Cymerodd tua 100 o ddisgyblion Blwyddyn 4 a 5 ran. Cawsom ymweliadau anhygoel gan yr Athro Paul Roche a ddangosodd delesgopau a chamerâu is-goch i ni ac a roddodd ddealltwriaeth newydd o’r gofod i'n plant.
“Yr un mor bwysig, fe wnaeth sesiynau Prifysgol y Plant helpu’n plant i ddysgu am greadigrwydd, gwaith tîm a phwysigrwydd cydweithio.”
Diddordeb mewn cyflwyno digwyddiad Prifysgol y Plant, wyneb yn wyneb neu ar-lein? Cysylltwch â thim Prifysgol y Plant: info-childrensuniversity@cardiff.ac.uk