Llyfr am gyfiawnder o dan sylw mewn trafodaeth yn San Steffan
6 Rhagfyr 2022
Thema ganolog llyfr newydd gan academyddion yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd oedd cefndir trafodaeth yn Neuadd San Steffan gan ASau yr wythnos diwethaf.
Roedd gan The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge, gan Robert Jones a Richard Wyn Jones, rôl ganolog yn y drafodaeth a gynhaliwyd gan Liz Saville-Roberts AS o blaid datganoli materion cyfiawnder i Gymru.
Clywodd ASau fod y 'rhwyg’ rhwng cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i Gaerdydd a’r rhai sydd wedi’u cadw yn San Steffan, yn arwain yn uniongyrchol at danseilio’r gwaith o allu craffu’n briodol ar sut mae’r system gyfiawnder yn gweithredu yng Nghymru. Mae hefyd yn effeithio ar greu polisïau mewn modd cydlynol ym meysydd tai, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae'r llyfr "arloesol" wedi’i ganmol am ei "ddadansoddiad trylwyr a meddylgar", ac mae rôl Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi’i chymeradwyo hefyd yn y modd y mae wedi crynhoi a rhyddhau data dadgyfunol ar gyfraddau carcharu yng Nghymru.
Cafodd y llyfr ei gydnabod gan Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, hefyd yn Senedd Cymru yr wythnos diwethaf, gan ddweud y bydd "yn gyfraniad defnyddiol wrth i ni geisio datblygu'r weledigaeth gyffredin hon" ym maes cyfiawnder menywod a ieuenctid.