Children’s University comes to Redwood
5 Rhagfyr 2022

Ddydd Mercher 16 Tachwedd, croesawodd yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol gant o blant o ysgolion cynradd Oakfield a Willowbrook i ddiwrnod o wersi gwyddoniaeth hwyliog ac addysgol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol y Plant a Chyngor Caerdydd, cafodd y disgyblion brofi gweithgareddau gan bum ysgol academaidd wahanol o Brifysgol Caerdydd, gan gynnwys yr Ysgol Fferylliaeth.
Mae Prifysgol y Plant yn elusen sy'n annog plant i gymryd rhan mewn addysg y tu hwnt i gwmpas eu cwricwlwm o ddydd i ddydd, a hynny er mwyn ysbrydoli cariad at ddysgu yn gyffredinol. I wneud hyn maent yn creu partneriaeth â sefydliadau megis Prifysgol Caerdydd er mwyn ehangu gorwelion plant, cyflwyno addysg uwch i blant yn gynnar yn eu bywydau, a dangos y gall addysg fod i bawb, gan hefyd feithrin ac ehangu chwilfrydedd trwy gyflwyno gweithgareddau addysgol hynod ddiddorol a hwyliog.

Gyda Chyngor Caerdydd wedi cytuno i ariannu cyfres o raglenni ar gyfer Prifysgol y Plant hyd at 2023 yn y lle cyntaf, mae'r brifysgol yn gweithio'n agos gyda'r ddau sefydliad a'r deg ysgol ar hugain dan sylw i ddylunio cynnwys a fydd yn ysbrydoli dysgwyr ifanc y ddinas.
Ar ddechrau’r ymweliad â Redwood cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Les Baillie, sef pennaeth prosiect Pharmabees y brifysgol, ac yna rhoddodd Dr Sarah Lethbridge ddarlith fusnes; roedd y ddarlith hon yn canolbwyntio ar sut mae busnesau yn gwneud lles cadarnhaol i gymdeithas. I’r rhan fwyaf o blant, dyma oedd eu profiad cyntaf o fod mewn darlithfa; roedd eu hymateb yn arbennig wrth iddyn nhw ddod i mewn, ac roedd hi’n glir eu bod nhw wedi’u rhyfeddu gan yr ystafell.

Yn dilyn y digwyddiadau cychwynnol, fe rannwyd y plant yn grwpiau ar gyfer y gweithgareddau a oedd yn digwydd ym mhob rhan o’r adeilad. Bu i Dr Thomas Woolley o’r Ysgol Fathemateg gael ymateb gwych, gyda’i gêm arbennig o ryngweithiol a ddysgodd y disgyblion am debygolrwydd a siawns. Cyflwynodd yr Athro Paul Roche o’r Ysgol Ffiseg fawredd y bydysawd drwy ei gyflwyniad difyr am sut beth yw byw yn y gofod. Fe ddaeth Priya Chauhan ynghyd â’i thîm o lysgenhadon STEM o’r Ysgol Cyfrifiadureg, â thechnoleg a’r celfyddydau ynghyd, trwy eu gweithgaredd yn seiliedig ar godio cerddoriaeth gan ddefnyddio cyfrifiaduron.

Cyflwynwyd gweithgaredd olaf yr Ysgol Fferylliaeth gan Dr Iwan Palmer a Mark Douglas, a fu’n siarad am newid hinsawdd a’r atebion i hynny. Mae hwn yn brosiect ymgysylltu sy’n tarddu o CALIN, cynllun a arweinir gan yr Ysgol Fferylliaeth, sy’n cysylltu busnesau bach â phrifysgolion. Yma, bu i’r plant ddysgu am botensial algâu gwyrddlas (cyanobacteria) i dynnu carbon deuocsid o'r aer, sydd hyd at 400 gwaith yn fwy effeithlon na choeden o'r un maint. Mae'r gweithgaredd yn rhan o gyfres ehangach o adnoddau addysgol sy'n cael eu datblygu gan Ein Dobarth Hinsawdd (Our Climate Classroom), sef prosiect CALIN, sy’n helpu athrawon i gyflwyno cynnwys cyfoethog ynghylch newid hinsawdd i'r genhedlaeth nesaf.

Roedd Is-ganghellor y brifysgol, Colin Riordan, ynghyd â’r Rhag Is-ganghellor Claire Morgan, y Cynghorydd Sarah Merry, Prif Swyddog Cyflawni Cwricwlwm Hwb Cymru Matthew O’Brien, pennaeth ymgysylltu ag ysgolion Prifysgol Caerdydd Sue Diment, yn bresennol ar y diwrnod ynghyd ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, a fu’n llofnodi contractau mewn seremoni fach er mwyn nodi’r prosiect arbennig.
Dywedodd yr Athro Baillie, a arweiniodd y tîm trefnu o'r digwyddiad, “Mae gan addysg y pŵer i sicrhau newid ac rydym yn esgeuluso ein plant os na fyddwn yn manteisio ar bob cyfle i gefnogi eu datblygiad.”