Celebrating Excellence at the School of Geography and Planning
5 Rhagfyr 2022
Mae dau aelod o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi’u cydnabod yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd.
Mae'r Gwobrau yn gyfle i bob aelod o staff ddweud ‘diolch yn fawr’ wrth y cydweithwyr hynny sydd wedi mynd yr ail filltir.
Mae Dr Andrea Collins yn rhan o’r Tîm Ymchwil Rhyngddisgyblaethol o Ysgol Busnes Caerdydd a’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, a enillodd y wobr Rhagoriaeth mewn Cynaliadwyedd Amgylcheddol.
Mae'r asesiad ymchwil hwn gan y tîm rhyngddisgyblaethol o effaith amgylcheddol digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr wedi trawsnewid gallu'r trefnwyr i ddeall a rheoli'r effeithiau hynny. Mae hyn wedi caniatáu i drefnwyr ddarparu digwyddiadau gyda llai o wastraff, gwneud arbedion o allyriadau CO2 mawr, a chyfleu negeseuon cynaliadwyedd i gynulleidfaoedd newydd.
Roedd Matluba Khan yn rownd derfynol y Rising Star: Categori Academaidd ar Ddechrau Gyrfa i gydnabod ehangder ei chyfraniad a’i chynnydd ar draws meysydd addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn noson wobrwyo ar 10 Mawrth 2022 yn Neuadd Fawr Undeb y Myfyrwyr, o dan arweiniad yr Athro Damian Walford Davies, y Dirprwy Is-ganghellor a Claire Sanders, Prif Swyddog Gweithredu.
Gall unrhyw un enwebu cydweithiwr unigol, neu grŵp o gydweithwyr, oherwydd eu cyfraniadau yn y brifysgol.
Mae'r gwobrau'n cefnogi ac yn atgyfnerthu strategaeth y brifysgol Y Ffordd Ymlaen. Maen nhw’n gwobrwyo cyflawniadau unigol, mewn tîm ac ar y cyd drwy ystod o gategorïau.