Ewch i’r prif gynnwys

Cynfyfyriwr o Ysgol y Gymraeg yn cynrychioli Cymru yn y byd

6 Rhagfyr 2022

Dyfarnwyd cydnabyddiaeth arbennig ‘Cymru i’r Byd’ i gynfyfyriwr o Ysgol y Gymraeg yng ngwobrau tua 30 oed Prifysgol Caerdydd eleni, yn sgîl ei gyfraniad eithriadol yn hyrwyddo’r Gymraeg, Cymru, a’i diwylliant, ar lwyfan rhyngwladol.

Wedi iddo raddio, mae Dr Matthew Jones, a anwyd yn America, ac a ddilynodd Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd (MA 2017), wedi ymdrechu’n barhaus i ymgorffori ei ymwybyddiaeth ynghylch Cymru, a’i ddiddordeb yn y wlad, yn ei yrfa lewyrchus.

Ac yntau’n Athro Hyfforddi Cynorthwyol ym Mhrifysgol Florida, mae Dr Jones, ochr yn ochr â’i gyfrifoldebau addysgu, yn meithrin cysylltiadau trawsatlantig rhwng Cymru ac UDA.

Hyd yma, mae wedi gweithio gyda nifer o raglenni ac asiantaethau Cymreig i gyflogi myfyrwyr o America (sydd wedyn yn gallu ymgolli yn niwylliant Cymru). Mae hefyd wedi paratoi rhaglen astudio dramor yng Nghaerdydd ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Florida ynghylch bywyd cyfreithiol a diwylliannol yng Nghymru ôl-Brexit ac ôl-UE.

Mae hefyd yn sefydlu rhaglenni yn UDA ar gyfer myfyrwyr prifysgol ac ysgolion uwchradd o Gymru.

Dywedodd: “Wedi i mi raddio ag MA ym maes Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, ac yna dychwelyd i America, fe wnes i barhau i ysgrifennu erthyglau ynghylch Cymru a’i hanes. Ar ôl treulio’r amser yng Nghaerdydd, fodd bynnag, roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau gwneud rhagor i gynrychioli Cymru, fel y mae hi heddiw.

“Gan mai prin yw’r ymwybyddiaeth o Gymru yn yr Unol Daleithiau, fe ddes i i’r casgliad y dylai ffocws y rhaglenni hyn fod ar sicrhau bod profiadau’r myfyrwyr yn ehangu eu gorwelion proffesiynol, a hynny yn y diwydiant maent yn ei ddewis. Y nod yw datblygu gwybodaeth a gwerthfawrogiad o’r Gymraeg, o Gymru a’i diwylliant ymhlith y myfyrwyr, gan sicrhau hefyd eu bod yn ymgymryd â phob cyfle sydd ynghlwm â’r rhaglenni.”

Mae Dr Jones yn gobeithio y bydd myfyrwyr, trwy gyflwyniad wedi’i deilwra o’r wlad, yn dod ar draws yr elfennau o ddiwylliant Cymru a fydd yn effeithio fwyaf arnyn nhw. Rhoddodd ei gyfnod yn Ysgol y Gymraeg gyd-destun i’r hanes a ddysgodd drwy lyfrau, gan ei gwneud yn glir iddo bod y Gymraeg a’i diwylliant yn ffynnu.

“Yn wahanol i brofiadau blaenorol o addysg, fe wnaeth Ysgol y Gymraeg fy nysgu nad yw eich astudiaethau’n dod i ben pan fyddwch yn gadael trwy ddrws y dosbarth. Mae’r perthnasoedd a’r gwersi y gwnes i eu dysgu yn ystod fy amser yng Nghaerdydd wedi aros gyda mi trwy brofiadau bywyd go iawn, yng Nghymru a thu hwnt. Mae hyn wedi fy ysgogi i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, ac rwy’n teimlo’n gryf y dylai hyn barhau y tu hwnt i gampws y brifysgol.”

Mae Dr Jones yn gobeithio y gall ei wobr tua 30 oed gynrychioli’r profiadau a gafodd yn ystod ei gyfnod yn Ysgol y Gymraeg, a siarad cyfrolau amdanynt. “O’m safbwynt i, nid fy ngwobr i yw hon, ond gwobr y rhaglen a’r ysgol, ac rwy’n cynrychioli’r cyfleoedd sy’n gallu codi trwy addysgu angerddol o safon uchel, ac ymroddiad.”

Rhannu’r stori hon