Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliad CUSEIP yn mynd i'r afael â bylchau mewn gwybodaeth

1 Rhagfyr 2022

Photo of Maya Morris presenting her CUSIEP poster

Mae Maya Morris, myfyriwr meistr yn yr Ysgol Cerddoriaeth, wedi ymgymryd â lleoliad Rhaglen Arloesedd Addysg Prifysgol Caerdydd (CUSEIP) o'r enw “Integreiddio'r myfyriwr wrth ddatblygu llwybr MA mewn addysg cerddoriaeth”.

Nod y lleoliad oedd cynorthwyo i ddatblygu llwybr meistr i bontio'r bwlch rhwng yr hyfforddiant i athrawon cerdd sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd ledled Cymru a Lloegr, a meysydd addysg cerddoriaeth y mae myfyrwyr ac athrawon yn credu y byddai'n elwa o'u gwella.

Casglodd y prosiect adborth gan y sectorau addysgol trydyddol ac uwchradd. Bu myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a'i phartneriaid, gwasanaeth cerdd Caerffili, gwasanaeth cerddoriaeth Casnewydd a Gwent, a thros 25 o ysgolion uwchradd yn ne Cymru a Lloegr, yn bwydo i mewn i'r prosiect. Rhannodd darpar fyfyrwyr ar Ddiwrnodau Agored y Brifysgol eu profiad presennol o astudio cerddoriaeth cyn mynd i'r brifysgol hefyd.

Dywedodd Maya: “Penderfynais gymryd y lleoliad CUSEIP oherwydd fy niddordeb ac ymglymiad mewn addysg cerddoriaeth. Cefais fy nghyffroi gan y cyfle i helpu i ddatblygu llwybr MA a modiwl israddedig mewn addysg cerddoriaeth ac roeddwn yn meddwl y byddai'n gyfle gwych i wella fy ngwybodaeth yn y maes hwn.

“Roedd y lleoliad hwn yn baratoad gwych ar gyfer fy nghwrs meistr presennol yn yr ystyr fy mod yn cael gweld y mathau o weithgareddau dysgu ac asesiadau y byddwn yn eu cynnal. Bydd y wybodaeth a gefais am wahanol feysydd addysg cerddoriaeth yn fuddiol ar gyfer unrhyw fodiwlau neu aseiniadau rwy'n eu cymryd mewn addysgu cerddoriaeth a bydd hefyd yn gwella fy ngweithgareddau addysgu fy hun.”

Dywedodd Dr Cameron Gardner, a oruchwyliodd y prosiect: “Mae coladu o'r fath yn effeithio ar yr hyn y gellid ei addysgu ar y llwybr MA newydd mewn addysg gerddorol a phwyslais rhai disgyblaethau, megis theori, cyfansoddi, technoleg, amrywiaeth genre, arwain a pherfformio.

“Mae'r posibilrwydd y bydd myfyrwyr addysg cerddoriaeth yn ymweld â safleoedd neu'n cynnal ysgolion hefyd yn ddewis deniadol, ac yn bwysig mae'n cryfhau ein cysylltiadau â chymunedau dysgu ehangach, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd economaidd-ddifreintiedig yn Ne Cymru.”

Rhannu’r stori hon