Mae plant â diabetes math 1 yn colli mwy o ysgol na phlant eraill, yn ôl astudiaeth
1 Rhagfyr 2022
Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi canfod bod plant sy'n byw gyda diabetes math 1 yn colli naw sesiwn yn fwy y flwyddyn yn yr ysgol ar gyfartaledd na phlant heb y cyflwr.
Yn yr ymchwil a gyhoeddwyd heddiw yn y Journal for Diabetes Care, canfu'r ymchwil fod plant â diabetes math 1 sydd â’r lefelau iachaf o glwcos yn y gwaed yn colli saith sesiwn y flwyddyn yn fwy, tra bod y rheini sy’n wynebu heriau wrth reoli eu diabetes yn absennol am 15 sesiwn yn fwy y flwyddyn. Mae absenoldeb yn cael ei fesur fesul sesiwn, sef hanner diwrnod.
Er bod llawer o blant â diabetes yn perfformio’n dda yn eu haddysg o hyd pan oeddent yn 16 oed ac yn cymryd rhan yn y brifysgol, canfu’r tîm fod y rheini sy’n wynebu anawsterau i reoli lefelau o glwcos yn y gwaed wedi cael canlyniadau TGAU sydd bum gradd yn is na phlant heb y cyflwr – er enghraifft 3B a 5C o’u cymharu ag 8B.
Maent hefyd yn llai na hanner tebygol o fynd i’r brifysgol o’u cymharu â phlant heb ddiabetes math 1.
Roedd ymchwil y tîm, sef astudiaeth feintiol a ddefnyddiodd ddata am blant ysgol (rhwng chwech a 18 oed) yng Nghymru rhwng 2009 a 2016, wedi ystyried hefyd ffactorau megis statws economaidd-gymdeithasol aelwyd plentyn, amddifadedd y gymdogaeth, rhyw ac oedran.
Canfuwyd bod y nodweddion personol a theuluol hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â hunanreoli diabetes yn effeithiol a’u bod, yn eu tro, yn cael effaith ar gyrhaeddiad addysgol.
“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod plant sy’n byw gyda diabetes math 1 yn wynebu llawer o heriau ychwanegol yn yr ysgol, gan gynnwys absenoldeb uwch,” meddai'r prif awdur Dr Robert French, uwch-gymrawd ymchwil yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
“Mae plant sy'n byw gyda diabetes ac yn rheoli'r cyflwr yn cael yr un graddau yn 16 oed â disgyblion ysgol heb ddiabetes - ac maent yr un mor debygol o symud ymlaen i addysg uwch. Mae hyn yn eithaf rhyfeddol, o ystyried eu bod yn colli mwy o sesiynau ysgol na'r rheini heb y cyflwr."
Diabetes math 1 yw un o'r afiechydon cronig mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod yn y DU, gan effeithio ar un ym mhob 250 o blant -er y bydd diagnosis yn cael ei wneud weithiau yn ddiweddarach mewn bywyd. Cyflwr awto-imiwnedd yw hwn, nid yw'n digwydd oherwydd ffactorau ffordd o fyw ac mae’n rhaid i’r plentyn roi pigiad inswlin iddo ei hun yn rheolaidd, neu ddefnyddio pwmp inswlin i reoli lefelau’r siwgr yn y gwaed.
Roedd Shelby Sangha yn 17 oed pan gafodd ddiagnosis o ddiabetes Math 1. A hithau’n 23 oed bellach, mae'n gweithio i Wasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr fel Anfonwr Meddygol Brys.
“Roeddwn i'n casáu'r ysgol ar y gorau, ac yna daeth fy myd i gyd yn llythrennol yn chwilfriw pan wnes i ddarganfod fy mod yn ddiabetig.
“Doeddwn i ddim eisiau credu bod gen i ddiabetes nac angen triniaeth gan nad oedd fy ffrindiau yn gwneud hynny - felly pam ddylwn i? Fe wnes i ei wthio i gefn fy meddwl a cheisio anghofio amdano.
“Roedd yr ysgol a'r arholiadau yn gorwynt, yn roller coaster emosiynol mawr iawn. Nid oedd gan unrhyw un syniad mewn gwirionedd beth oedd diabetes na beth oedd yn ei olygu, gan gynnwys fi. Nid wyf hyd yn oed yn meddwl fy mod wedi cael unrhyw gefnogaeth gan fy ysgol, os cofiaf yn iawn.
Yn 18 oed, cafodd Rebecca Barlow-Noone ddiagnosis o ddiabetes Math 1. Yn 26 oed bellach, mae newydd orffen astudio ar gyfer gradd meistr ac wedi bod yn rhan o grŵp cynghori’r prosiect ymchwil.
“Pan fydd lefel y siwgr yn eich gwaed yn ansefydlog, mae’n cael effaith sylweddol ar eich lles, eich gallu i ganolbwyntio a’ch bywyd bob dydd. Felly, dydy canfyddiadau’r astudiaeth hon ddim yn fy synnu,” meddai.
“Er fy mod i’n lwcus i gael cefnogaeth gartref wedi’r diagnosis, gall diabetes Math 1 wneud i chi deimlo ar eich pen eich hun, ac mae plant a phobl ifanc yn wynebu rhwystrau go iawn.
“Yn yr argyfwng costau byw presennol, mae’n peri pryder nad yw cymorth hyd yn oed yn ddigon – yn enwedig os bydd plant â diabetes yn colli prydau ysgol. Mae'n gwneud y cyflwr cymhleth hwn hyd yn oed yn anoddach ei reoli.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n deall sut mae’r ffactorau ychwanegol hyn – y penderfynynnau cymdeithasol fel ym mhle rydyn ni’n cael ein magu a’r addysg rydyn ni’n ei chael – yn effeithio ar iechyd.”
Ychwanegodd Dr French: “Gall byw gyda diabetes effeithio ar bob agwedd ar fywyd plentyn, boed y teulu, ffrindiau neu'i hunan-barch, ac mae'n beth cymhleth i’w reoli gan fod llawer o ffactorau ynghlwm wrth y cyflwr.”
“Mae hefyd yn rhoi baich enfawr ar y GIG o ran ymyriadau costus. Amcangyfrifir bod diabetes math 1 yn gyfrifol am £1bn o gostau uniongyrchol i'r GIG, gan gynnwys clefyd y galon sy'n gysylltiedig â diabetes, methiant yr arennau a thorri’r droed i ffwrdd) yn ogystal â £0.9bn o gostau anuniongyrchol, er enghraifft, absenoldeb o'r gwaith oherwydd afiechyd a'r effaith ar iechyd meddwl.
“Mae'r astudiaeth hon yn bwysig i ddeall sut y dylem fynd i'r afael â'r heriau o ran iechyd ac addysg fydd gan bobl ifanc â diabetes yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ysgolion a thimau gofal iechyd weithio gyda'i gilydd i roi mwy o gymorth i blant a'u teuluoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod plant sy'n byw gyda diabetes yn gallu ffynnu a chyrraedd eu potensial academaidd llawn.”
Ychwanegodd Dr Faye Riley, Rheolwr Cyfathrebu Ymchwil Diabetes UK: “Mae pob plentyn â diabetes yn haeddu'r un addysg, profiadau a chyfleoedd â phlant eraill. Er bod plant â diabetes math 1 yn tueddu i golli mwy o’r ysgol na'r rheini heb y cyflwr, un o ganlyniadau calonogol yr astudiaeth hon yw nad yw eu cyflwr yn cael effaith negyddol ar eu cyrhaeddiad addysgol a'r tebygolrwydd y byddant yn symud ymlaen i addysg uwch yn 16 oed.
“Er i’r ymchwil ganfod bod y rheini â lefelau siwgr uwch yn y gwaed wedi cael graddau is na'r rheini â lefelau mewn ystod darged, nid yw'n dangos mai’r lefelau uchel o siwgr yn y gwaed yw achos uniongyrchol hyn. Yn hytrach, mae'n debygol bod y cysylltiad hwn yn cael ei egluro gan ffactorau eraill megis cymorth teuluol a ffactorau economaidd-gymdeithasol sy'n gysylltiedig â siwgrau uwch yn y gwaed a chanlyniadau addysgol gwaeth."